Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, DAVID (1813-1894), gweinidog Annibynnol ac esboniwr Beiblaidd; g. yn ymyl Dinbych-y-pysgod, sir Benfro, mab William Thomas, gweinidog Annibynnol. Wedi gorffen ei ysgol bu mewn galwedigaeth fasnach ac yn athro ysgol a gwasnaethu eglwysi'r cylch fel pregethwr ar y Sul. Cafodd gwrs disglair yng Ngholeg Newport Pagnell. Ordeiniwyd ef yn weinidog yn yr eglwys Annibynnol yn Chesham yn 1841, symudodd i Stockwell, Llundain, yn 1844, a gweinidogaethodd yno hyd 1877, pryd yr ymddeolodd. Cafodd weinidogaeth hynod o eithriadol yn Stockwell; tynnai ei bregethau esboniadol gynulleidfaoedd mawr, a daeth yn esboniwr Beiblaidd mwyaf poblogaidd ei gyfnod. Ei brif weithiau oedd: A Biblical Liturgy, 1856; Augustine Hymn Book, 1866; yn cynnwys rhai o'i emynau ei hun; The Crisis of Being, 1849; Homiletic Commentary on St. Mathew, 1864; Homiletic Commentary on the Acts, 1870; Problemati Mundi, 1878. Cyhoeddwyd ei holl weithiau yn naw o gyfrolau, 1882-9. Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Feiblaidd oedd The Homilist, 50 o gyfrolau. Bu f. 30 Rhagfyr 1894 yn Ramsgate. Mab iddo oedd REES URIJAH THOMAS (1839-1901), a fu'n llywydd y ‘Congregational Union’ yn 1895 (Congl. Year Book, 1902).

Llyfryddiaeth:

  • Congl. Year Book, 1896;
  • D.N.B.;
  • The Times, 1 Ionawr 1895;
  • N.L.W. MS. 9274.

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS, DAVID (1813-1894; Bywg., 884) Yn ail linell yr ail golofn darllener cadeirydd (nid ‘llywydd’).