Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, EDWARD (‘Idriswyn ’; 1847-1906), newyddiadurwr. Brodor o Aberystwyth medd Bye-Gones, eithr cyfeirir ato mewn englyn coffa yn Y Geninen fel Meirionwr — o Ddolgellau, yn ôl y Welsh Gazette a'r Cambrian News. Bu'n bennaeth ar rai o'r gweithwyr yn swyddfa argraffu'r Cambrian News, Aberystwyth; wedyn bu yng Nghaerdydd am dros 20 mlynedd ar staff y Western Mail, ar y cyntaf yn bennaeth (‘overseer’) yn y swyddfa argraffu ac wedi hynny yn golygu y Weekly Mail. Ysgrifennodd lawer ar faterion Cymreig ac ystyrid ef yn amddiffynnydd yr iaith. Bu f. 15 Mehefin 1906 yn Aberystwyth.

Llyfryddiaeth:

  • Bye–Gones, 20 Mehefin 1905;
  • The Welsh Gazette, 21 Mehefin 1906;
  • Camb. News, 22 Mehefin 1906.

Awdur:

Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS, EDWARD (1847-1906; Bywg., 887) Llyfr. yn Bye-Gones 1906 (nid 1905) ceir yr hanes.