Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, EDWARD (‘Cochfarf ’; 1853-1912); g. 9 Mawrth 1853 yn ffermdy Nantywith, Betws, gerllaw Maesteg, sir Forgannwg, mab Llewellyn Thomas a'i wraig (a oedd yn aelod o deulu Bryncethin-fawr). Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Betws. Collodd ei dad pan oedd tua 10 oed, ac aeth gyda'i fam i Felin Ifan Ddu. Yn 1876 symudodd i Hengoed i weithio fel saer coed, a myned oddi yno i Gaerdydd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Bu'n gweithio fel saer coed ar (hen) neuadd y dref, S. Mary Street, Caerdydd; yn ddiweddarach yr oedd i fynychu'r lle hwnnw fel un o gynrychiolwyr etholwyr y dref. Yr oedd yn un o ysgrifenyddion yr eisteddfod genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1879. Yn 1880 dechreuodd ‘Cochfarf’ wasnaethu y Cardiff Coffee Tavern Company. Pan benderfynodd y cwmni hwnnw agor ei dai ar y Suliau anghytunodd ‘Cochfarf’ â'r polisi ac agorodd ei dafarn goffi ei hun, yn Custom House Street; ymhen amser agorodd ddau dŷ arail — y Metropole ar gyfer stesion y Taff Vale Railway, a'r Red Dragon yn ardal y dociau. Dechreuodd ei yrfa fel un o gynghorwyr tref Caerdydd yn 1890; daeth yn faer ym mis Tachwedd 1902. Yr oedd ei ddiddordeb yn ddwfn mewn hanes a hynafiaethau; efe, fel y digwyddodd, oedd cadeirydd is-bwyllgor cyngor y dref a oedd yn trefnu i John Hobson Mathews [q.v.] weithio ar ddogfennau swyddogol Caerdydd. Câi materion ynglŷn â Llyfrgell Rydd Caerdydd lawer o'i sylw hefyd; ysgrifennai yn aml i'r Wasg leol ac i gyfnodolion. Yr oedd yn Fedyddiwr ac yn Rhyddfrydwr, a bu'n ymladd yn gryf o blaid datgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys Sefydledig. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn y Custom House Street Coffee Tavern y ffurfiwyd Cymdeithas Cymmrodorion Caerdydd, cymdeithas ddylanwadol y bu ‘Cochfarf’ yn aelod a swyddog blaenllaw ynddi. Yr oedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Cadwraeth yr Iaith Gymraeg. Bu ‘Cochfarf’ yn briod ddwywaith: (1) â merch Dr. Cook, Ynyspenllwch, a (2) â merch y Parch. Richard Hughes (‘Tremrudd’), Maesteg. Daeth yr ail wraig, a adnabyddid wrth yr enw Madame Hughes-Thomas, i lawer o sylw oblegid ei chôr merched a fu'n teithio yn America, Canada, a De Affrica. Aeth ‘Cochfarf’ gyda'r côr, ac oblegid y profiad a gafodd ar y daith honno bu o gymorth mawr pan oeddid yn gwneuthur trefniadau ar gyfer yr eisteddfod gyd-genedlaethol Gymreig a gynhaliwyd yn Pittsburg, Pennsylvania, U.D.A., yn 1913. Bu f. 18 Tachwedd 1912.

Llyfryddiaeth:

  • West. Mail, 19 Tachwedd 1912;
  • Ser. G., 1913, 142-7.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth