THOMAS, PHILIP EDWARD (1878 - 1917), bardd, traethodwr, a beirniad

Enw: Philip Edward Thomas
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1917
Priod: Helen Berenice Thomas (née Noble)
Plentyn: Helen Elizabeth Myfanwy Thomas
Plentyn: Bronwen Thomas
Plentyn: Merfyn Thomas
Rhiant: Mary Elizabeth Thomas (née Townsend)
Rhiant: Philip Henry Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, traethodwr, a beirniad
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Lawrence William Hockey

Ganwyd yn Lambeth, Llundain, 3 Mawrth 1878, mab Philip Henry Thomas, Tredegar, a'i wraig Mary Elizabeth, o Gasnewydd-ar-Wysg. O ran ei dras yr oedd o Forgannwg a Gwent, ac yr oedd y cefndir teuluol yn Gymreig. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, The Woodland Life, yn 1897. Yn 1899, ac yntau'n fyfyriwr yn Rhydychen, priododd Helen Berenice Noble; bu iddynt dri o blant. Yr oedd yn feirniad llenyddol nodedig, ac ymysg y beirniaid cyntaf i ganfod gallu W. H. Davies fel bardd. Ymysg ei gyfeillion o Gymry yr oedd W. H. Davies a John Jenkins ('Gwili'). Datguddir ei gariad dwfn at Gymru yn ei Beautiful Wales, 1905, ac yma a thraw, ar wasgar, yn ei weithiau eraill. Ysgrifennodd lawer o lyfrau mewn rhyddiaith gain a detholedig, eithr ni welwyd mo'i werth yn gyfan gwbl hyd nes y cyhoeddwyd, ar ôl ei farw, y caneuon a ysgrifennodd yn ei flynyddoedd diwethaf. Lladdwyd ef ar faes y frwydr, 9 Ebrill 1917. Heblaw y llyfrau a enwyd eisoes dylid ychwanegu: George Borrow, Richard Jefferies, Collected Poems, The Childhood of Edward Thomas, The Prose of Edward Thomas (a ddetholwyd gan Roland Gant).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.