THOMAS, EVAN, neu IFAN TOMOS RHYS (c. 1710—c. 1770), bardd a chrydd;
mab Thomas Rhys Siams o Lwyndafydd, Llandysiliogogo, sir Aberteifi. Bu'n dilyn ei grefft yn Llanarth. Ni wyddys pa bryd y dechreuodd farddoni, ond cyhoeddodd gerdd ar lun baled, sef ‘Y Maen Tramgwydd,’ rywbryd rhwng 1757 a 1761. Ymddangosodd dwy o'i gerddi yn Hymnau Cymwys i Addoliad, 1768, ac un yn Blodau Dyfed, 1824. Argraffwyd cyfrol o'i farddoniaeth, Diliau Awen, yn 1842. Golygwyd hi gan William Hughes Griffiths, Llandysiliogogo, ac ymgymerodd ‘Brutus’ ag ysgrifennu rhagymadrodd. Yn y mesurau rhydd y canai gan amlaf. Mae ei destunau yn werinaidd-gymdeithasol, a gwelir olion y baledi ar ei ganu. Ni chadwyd ond pump o'i englynion, a thystia'r rheini na feistrolodd mo grefft y gelfyddyd gaeth. Yr oedd yn awdur halsingod hefyd. Cyfarfu Lewis Morris ag ef yn 1761, ac nid oedd y pryd hwnnw ‘above 50 years of age.’
Llyfryddiaeth:
- Griffith Jones (Glan Menai), Enw. Aberteifi, 130;
- D. J. Davies, Hanes Llanarth, 83;
- Morris Letters (mynegai);
- Trans. Cymm., 1946;
- N.L.W. MSS. 19, 609;
- Cardiff MS. 56 (48, 67);
- Panton MS. 9 (165).
Awdur:
Dr Geraint Bowen, M.A., Rhiwabon