Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, EVAN (‘Ieuan Fardd Ddu ’; 1733-1814), argraffydd a chyfieithydd; mab John Abel (neu John Thomas) a oedd yn fab i Thomas Abel o'r Wtra Wen ym mhlwyf Llanfair Caereinion, sir Drefaldwyn. Argraffydd oedd wrth ei alwedigaeth, a chan ei fod hefyd yn ysgolhaig Cymraeg da yr oedd galw mawr am ei wasanaeth mewn argraffdai Seisnig lle'r argreffid llyfrau Cymraeg. O Amwythig, lle y gweithiai yn 1765, symudodd i Gaer; yna, tua 1767, i Gaerfyrddin lle'r arhosodd am rai blynyddoedd ac y bu'n cywiro proflenni argraffiad Cymraeg o'r Beibl. Cyfrannodd ef a'i dad, John Thomas, i'r Eurgrawn Cynmraeg, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf a argraffwyd, 1770. Yr oedd yn fardd, a chyhoeddai ei gerddi o dan y ffugenw ‘Ieuan Fardd Ddu.’ Yn 1781 yr oedd yn gysodydd yn swyddfa T. Wood, cyhoeddwr cyntaf y Shrewsbury Chronicle. Ef oedd awdur neu gyfieithydd Anfeidrol werthfawrogrwydd Enaid Dyn, 1767; Barnedigaethau ofnadwy Duw, 1767; cyfieithodd Grace Abounding (John Bunyan) o dan y teitl Helaethrwydd o Ras, 1767; A Life of Faith (W. Romaine), o dan y teitl Traethawd ar Fywyd Ffydd, 1767; a golygodd Hymnau cymwys i addoliad Duw o waith y diweddar Parch. Jenkin Jones ynghyd a'i Farwnad, 1768. Am beth amser hefyd cyhoeddodd almanac o dan ei enw ef ei hun. Yn anffodus ymroes i ddiota, ac yn ei flynyddoedd olaf dirywiodd i fod yn gymeriad gwael. Rhoddodd heibio ei alwedigaeth fel argraffydd gan ymgymryd â seryddiaeth, dewiniaeth, a dywedyd ffortiwn. Yn niwedd ei yrfa cafodd noddfa yn yr House of Industry, Amwythig. Priododd chwaer i Thomas Richards, tad y barwn Richards [q.v.], Caerynwch, sir Feirionnydd. Bu f. 12 Mawrth 1814.

Llyfryddiaeth:

  • R. Williams, Mont. Worthies;
  • W. Rowlands, Llyfr. y Cym..

Awdur:

Thomas Isfryn Jones, Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS, EVAN (1733-1814; Bywg., 888) (1) nid chwaer i Thomas Richards oedd priod Evan Thomas, eithr Ellen Parry, a oedd yn chwaer i William Parry, o'r Cae Ceirch, Dolgellau, Warden Ysgol Rhuthun (Bye-Gones, 6/3/1901, 4/6/1902, 21/1/1903) — fe'u pr. 15 Meh. 1766 yn S. Chad. Amwythig, yn ôl rhestr y plwyf. (2) bu f. yn nhloty Amwythig, 12 Ion. 1814 (nid 12 Mawrth) — Shrewsbury Chronicle, 14 Ion. 1814; talwyd 2s. 10d. i'r cludwyr yn ei angladd, meddai cyfrifon y tloty yn ‘Record OfficeAmwythig.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan Mrs. Brenda Parry-Jones.