Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, EVAN (bu f. 1781), Cwmhwylfod , Sarnau , gerllaw'r Bala , copïydd a pherchennog llawysgrifau. Golygodd E. Stanton Roberts un o'i lawysgrifau (N.L.W. MS. 686) a'i gyhoeddi o dan y teitl Llysieulyfr Meddyginiaethol a briodolir i William Salesbury (Liverpool, 1916). Bu Cwrtmawr MS. 1 (un o lawysgrifau Ellis Gruffydd, y sawdiwr o Galais, ac yn cynnwys adrannau ar feddyginiaeth a llysiau) a N.L.W. MS. 642 yn eiddo Evan Thomas, ac erbyn hyn gellir dywedyd hefyd iddo fod yn berchen N.L.W. MS. 4581 sydd yn gopi cynharach o'r ‘Llysieulyfr Meddyginiaethol,’ sef copi a wnaeth Roger Morris, Coed y Talwrn, Llanfair Dyffryn Clwyd, a oedd yn gyfaill i William Salesbury. Yn ôl cofrestr plwyf Llanfor, sir Feirionnydd, claddwyd ‘Evan Thomas of Penmaen Township’ ar 12 Ionawr 1781.

Llyfryddiaeth:

  • Megan Ellis, ‘Evan Thomas,’ yn Cylch. Ll.G.C., i, 111.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth