THOMAS, EVAN , neu ‘Bardd Horeb ’ (1795-1867), bardd, teiliwr wrth ei grefft;
mab hynaf Thomas Francis, Melin Pant Olwen, Llandysul, sir Aberteifi, ac ŵyr, o du ei fam, i Ifan Tomos Rhys [q.v.], y bardd o Lanarth. Priododd Margaret Charles, merch H. Charles, Cwrt Manarorion, Llangeler, ac ŵyres i'r Parch. Jenkin Jones [q.v.], Llwyn-rhyd-Owen. Er iddo fyw am dymor yn Aberhonddu, cysylltir ef fel rheol â Horeb, Llandysul. Daeth o dan ddylanwad yr eisteddfod daleithiol a ‘Daniel Ddu o Geredigion.’ Golygwyd ei farddoniaeth gaeth a rhydd gan Evan Pan Jones [q.v.], a'i chyhoeddi yn Llanbedr-pont-Steffan yn 1875. Enw'r gyfrol ydyw Telyn Ifan. Bu f. 2 Hydref 1867, ‘yn 72 oed’; claddwyd ef a'i wraig ym mynwent Llandysul.
Llyfryddiaeth:
- Gen., 1900, 136;
- D. J. Davies, Hanes Llanarth, 90;
- W. J. Davies, Hanes Plwyf Llandysul, 192-4.
Awdur:
Dr Geraint Bowen, M.A., Rhiwabon