THOMAS, EZEKIEL (1818-1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur;
g. 1818, mab Morgan a Catherine Thomas, Pwll-mawr, Llansamled, Morgannwg. Prentisiwyd ef yn saer maen, ond dechreuodd bregethu yn ieuanc yng nghapel y Cwm, Llansamled. Ordeiniwyd ef yn sasiwn y Bont-faen, 1857, ond ni bu â gofal eglwys erioed. Cyfrifid ef yn feddyliwr praff, ac ymddiddorai mewn pynciau allan o'r cyffredin. Ei lyfr cyntaf oedd Daeareg Parth Gorllewinol Morganwg (Cwmafan, 1875), a dilynwyd hwnnw gan Human Harmony (Cwmafan, 1877) — traethawd ar berthynas dyn â Duw, y genedl a'r Eglwys. Cyhoeddodd Sylwadau ar yr Epistol at yr Hebreaid (Hirwaun) yn 1881; Cyfiawnhad trwy Ffydd (Abertawe) yn 1882; ac Adolygiad ar Farn y Tri Doctor (Treforus) yn 1890 — yr olaf yn draethawd dadleuol ynghylch awduraeth yr epistol at yr Hebreaid. Bu f. 12 Mawrth 1893, a'i gladdu ym mynwent capel y Cwm.
Llyfryddiaeth:
- Y Cylchgrawn, 1893, 142;
- C.M. Diary, 1894, 230;
- W. Samlet Williams, Hanes a Hynafiaethau Llansamlet, 27, 40;
- J. J. Morgan, A Welais ac a Glywais, i, 159.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe