THOMAS, FRANCIS (‘Crythwr Dall o Geredigion ’; 1726-1796);
g. yn Llanwennog, sir Aberteifi. Pan oedd yn 5 mlwydd oed collodd ei olwg, ond ar waethaf hyn meistrolodd ganu'r ffidil ac enillai ei fywoliaeth fel datgeiniad mewn partïon a chynulliadau o'r fath. Yr oedd hefyd yn fardd da, a dysgodd y gelfyddyd gan Dafydd Llwyd, Brynllefrith (David Lloyd) [q.v.], a chopïwyd ei gerddi drosto gan Siôn Llwyd, taid y Parch. D. Lloyd Isaac [q.v.]. Canai yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chyhoeddwyd dwy o'i gerddi, ‘Cynghor i Fab Ieuanc’ a ‘Hanes Cyflwr Dyn yn mhob rhan o'i oes,’ gan John Howell (‘Ioan Howell’) yn Blodau Dyfed, 1824. Bu f. 4 Mawrth 1796 yn Llanwennog.
Llyfryddiaeth:
- Benjamin Williams (Gwynionydd), Enw. Cer.;
- Griffith Jones (Glan Menai), Enw. Aberteifi;
- M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
Awdur:
Thomas Isfryn Jones, Aberystwyth