Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, GEORGE (c. 1791c. 1872), awdur barddoniaeth ffug-arwrol a dychanol yn ymwneuthur â sir Drefaldwyn; g. c.1791, mab James Thomas, prynwr a dosbarthwr gwlân, y Drenewydd, sir Drefaldwyn. Cafodd beth addysg yn ysgol Park, Amwythig, bu'n cynorthwyo ei dad mewn busnes yn y Trallwng, ac wedi hynny bu'n gweithio drosto'i hunan yn y dref honno fel malwr ydau, etc. Bu'n glerc i deuluoedd Newton Hall a Cilgwrgan (Abermule); o c. 1820 hyd c. 1840 bu'n glerc i'r ‘Forden House of Industry.’ Yn ddiweddarach bu'n ysgolfeistr ac yn bostfeistr yn Llandyssil, i'r lle y symudasai yn 1826, ac yno y bu f. c. 1872. Ymysg ei weithiau y mae (a) The otter hunt and the death of Roman, a well-known hound (Welshpool, 1817); (b) The Welsh flannel (chwech arg.); (c) History of the Chartists and the Bloodless Wars of Montgomeryshire (yn cynnwys ‘History of Toolly Loolly,’ ‘Battle of Abermule,’ ‘Battle of Heniarth,’ ‘Battle of Caersws,’ a ‘Battle of Newtown and Llanidloes,’ 1840 — y rhain yn dychanu milwyr y sir, sef y ‘Yeomanry’); (ch) The death of Rowton (a Llandyssil eccentric); (d) The extinction of the Mormons.

Llyfryddiaeth:

  • R. Williams, Mont. Worthies;
  • Mont. Coll., xlix, 257, gyda. darlun.

Awdur:

John Davies Knatchbull Lloyd, M.A., F.S.A., O.B.E., Trefaldwyn

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS, GEORGE (Bywg., 889) Bu f. 30 Awst 1859 yn 73 oed, felly dylid newid ei ddyddiadau i 1786-1859.