THOMAS, FREDERICK HALL (‘Freddie Welsh ’; 1886-1927), paffiwr;
g. 5 Mawrth 1886, ym Mhontypridd, mab i John Thomas o Bontypridd, a Fannie Brahna. Cafodd ei addysg yn Long Ashton, Bryste, a dangosai duedd gref anghyffredin at chwaraeon er pan yn ieuanc iawn. Pan yn yr ysgol cipiodd nifer o wobrwyon am baffio, ymaflyd codwm, rhedeg, a neidio. Cafodd ei lwyddiant cyntaf o bwys pan yn 20 oed, pryd y curodd Hock Heyes am gampwriaeth ysgafnbwys Awstralia, trwy ei fwrw allan yn yr ail rownd ar bymtheg mewn ymladdfa o ugain rownd. Ar ôl hyn daeth un gampwriaeth ar ôl y llall iddo. Dechreuodd trwy ddyfod yn ben paffiwr ysgafnbwys Cymru, gan ddwyn y teitl oddi ar Johnnie Owens yn 1907. Yna aeth ymlaen i guro Johnnie Summers am gampwriaeth ysgafnbwys Lloegr a Phrydain Fawr, a thrwy hynny enillodd y ‘Lonsdale Belt’ gyntaf i gael ei chynnig yn y dosbarth hwnnw. Ymhen tair blynedd, yn 1912, cafodd Welsh fuddugoliaeth dros Hughie Mehegan, ac yna ennill campwriaeth ysgafnbwys yr Ymerodraeth Brydeinig a'r ail ‘Lonsdale Belt.’ Yn fuan ar ôl hyn enillodd y trydydd ‘Lonsdale Belt’ trwy orchfygu Matt Wells am gampwriaeth Prydain Fawr, gan adennill y teitl a ddygodd Wells oddi arno yn 1911. Cyflawnodd ‘Welsh’ lawer camp ym myd paffio. Yn 1907 ymladdodd â thri o wrthwynebwyr mewn un diwrnod a'u gorchfygu; eu henwau oedd Evan Evans (ysgafnbwys), Charlie Weber (is-ganolbwys), a Gomer Morgan (trymbwys). Yn ddiweddarach aeth i fyw i America, a daeth yn gyfarwyddwr ar ‘health farm’ yn Bayside, Long Island. Yr oedd hefyd yn brif gyfarwyddwr yr adran ymarfer corff yn y ‘Walter Reed Army General Hospital,’ Washington, D.C. Bu f 28 Gorffennaf 1927.
Llyfryddiaeth:
- The Times, 29 Gorffennaf 1927;
- West. Mail, 29 Gorffennaf 1927 a 11 Tachwedd 1949 (‘Former Welsh Boxing Champions,’ rhif 1, gan Tudor James).
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth