THOMAS, HENRY (1712 - 1802), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog Annibynnol

Enw: Henry Thomas
Dyddiad geni: 1712
Dyddiad marw: 1802
Priod: Gwen Thomas (née David)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd a gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

brodor o Dalacharn, Sir Gaerfyrddin. Daw i'r golwg gyntaf fel ysgolfeistr cylchynol ym Morgannwg a chynghorai'n achlysurol yn seiadau'r Methodistiaid. Priododd, c. 1747, Gwen, merch Jenkin David, Gelli Dochlaethe, ger y Crynant, a chafodd dŷ ar dir y Gelli i gynnal cyfarfodydd ynddo. Yno, ond odid, yr oedd man cyfarfod seiat fore'r ardal. Ymwelai Howel Harris yn aml â'r Gelli, a chynhaliwyd rhai sasiynau yno. Ochrodd Henry Thomas gyda Harris yn yr ymraniad rhyngddo a'i gyd-ddiwygwyr, ond cefnodd arno'n ddiweddarach. Ordeiniwyd ef c. 1754 yn null yr Annibynwyr, a throes y seiat yn eglwys Annibynnol. Bu'n weinidog ar gynulleidfa Godre'r Rhos - enw'r eglwys heddiw - am tua 18 mlynedd. Am resymau nad ydynt yn glir inni bellach nid oedd yn weinidog yn ystod 30 mlynedd olaf ei oes; cyhuddir ef o anghymedroldeb gan Edmund Jones. Bu farw 1 Awst 1802, yn 90 mlwydd oed, a'i gladdu ym mynwent Godre'r Rhos.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.