THOMAS, JOHN (1757 - 1835), Penfforddwen, bardd, a llenor

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1757
Dyddiad marw: 1835
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, a llenor
Cartref: Penfforddwen
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn 1757 yn Allt Ddu, plwyf Llannor, Sir Gaernarfon (bedyddiwyd 10 Gorffennaf). Bu'n wehydd, yn forwr, ac yn ysgolfeistr; bu hefyd yn swyddog mewn tollfa yn Lerpwl. Yn Penfforddwen, plwyf Nantglyn, sir Ddinbych, y treuliodd doreth ei oes; bu wedyn yn Llwynbidwal, Bryn Eglwys yn Iâl. Deallai beth seryddiaeth a threfnai almanaciau. Cyhoeddodd (a) Urania, neu Grefydd Ddadleuon, 1793 - math o anterliwt; (b) Annerch Ieuengtyd Cymru, yn IV Rhan, 1795 (a dau arg. wedi hynny); (c) Telyn Arian, sef Llyfr Barddoniaeth, c. 1800 (a tua chwech arg. wedi hynny), (ch) Nabl Arian, sef Llyfr Barddoniaeth, 1827. Bu farw yn Overton, Sir y Fflint, 2 Ionawr 1835, a'i gladdu yno hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.