THOMAS, JOHN (1760 - 1849), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd;

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1849
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd;
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd ym mhlwyf y Ferwig, Sir Aberteifi. Ychydig o fanteision a gafodd ym more oes; priododd yn ieuanc a chafodd deulu lluosog. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn 1775, ond troes at y Methodistiaid yn 1779. Ymfudodd i Lundain i ddilyn ei grefft o ddilledydd; ymunodd yno ag eglwys Wilderness Row ond gwrandawai'n gyson ar yr enwog William Romaine. Dychwelodd i dref Aberteifi a dechreuodd bregethu c. 1795. Dewiswyd ef i'w neilltuo yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Pregethai'n llym, ond yn rhagorol iawn; cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau ar ôl ei farw. Bu farw 3 Chwefror 1849 - yr olaf o urddedigion 1811.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.