THOMAS, JOHN (1763 - 1834), emynydd

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1763
Dyddiad marw: 1834
Priod: Catherine Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Trigai yng Nghwmsidan Fawr, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin. Ymunodd â'r Methodistiaid yn Esgair-nant, Talyllychau, yn 1785, a bu'n flaenor yno ac yn ysgrifennydd yr eglwys. Yr oedd ef a'i gyfaill Thomas Lewis o Dalyllychau yn flaenllaw gyda mudiad yr ysgol Sul yn y gymdogaeth. Bu farw 30 Ebrill 1834, a chladdwyd ef gyda Catherine, ei briod, ym mynwent Talyllychau. Cyfansoddodd amryw o emynau, ond yr enwocaf ohonynt yw ' Wrth weled mor fyrred yw 'nydd,' a fu mewn bri mawr ar un adeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.