THOMAS, JOHN ('John Thomas, Llanwrtyd'; 1839 - 1921), cerddor

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1921
Priod: Ann Thomas (née Williams)
Plentyn: Annie Lewis (née Thomas)
Rhiant: Nansi Thomas
Rhiant: Benjamin Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 11 Rhagfyr 1839 yn Blaenannerch, Sir Aberteifi, mab Benjamin a Nansi Thomas. Addysgwyd ef yn ysgol ddydd Blaenannerch a'r Adpar Grammar School, Castellnewydd Emlyn. Hanoedd o deulu cerddorol; rhoddid lle amlwg i ganiadaeth yn ei gartref, a gwnaeth yntau ddefnydd o'r holl gyfleusterau a gafodd, fel y daeth yn gerddor, bardd, a llenor a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i'w genedl. Prentisiwyd ef yn siopwr yng Nghastellnewydd Emlyn, ond oherwydd stad ei iechyd dychwelodd gartref i siop ei dad, ac ym Mlaenannerch yr arhosodd hyd 1871. Dechreuodd gyfansoddi yn ieuanc. Enillodd, yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, 1862, y wobr am y ddwy ganig, ' Y Lloer ' a ' Y glos loer, fugeiles lân. ' Cyfansoddodd ' Nant y Mynydd ' i eisteddfod Abertawe, 1863; bu y rhai hyn a'i ganigau eraill yn boblogaidd. Cyfansoddodd lawer o anthemau, a chanwyd llawer ar 'Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel,' 'Moeswch i'r Arglwydd,' 'Fel y brefa'r hydd.' Erys ei donau, 'Blaenycefn,' 'Aberporth.' 'Cymod,' ac 'Ar ei ben bo'r goron,' yn boblogaidd. Yn 1867 enillodd yn eisteddfod genedlaethol Caerfyrddin ar y bryddest, 'Daniel.' Ceir amryw o'i ddarnau barddoniaeth yn ei gofiant gan Evan Evans, 1926. Yn 1871 priododd Anne, merch y llythyrdy, Llanwrtyd; wedi hyn adweinid ef fel 'John Thomas, Llanwrtyd,' ac yno y treuliodd weddill ei oes. Gwasnaethodd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu, a bu ei ddylanwad yn fawr ar gynulleidfaoedd Cymru. Yn 1920 derbyniodd y radd o M.A. gan Brifysgol Cymru am ei wasanaeth i'w genedl. Bu farw 25 Chwefror 1921 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys y plwyf, Llanwrtyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.