THOMAS, JOSHUA (bu farw 1759?), clerigwr a chyfieithydd

Enw: Joshua Thomas
Dyddiad marw: 1759?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn Penpes, plwyf Llanlleonfel, sir Frycheiniog. Yr oedd yn gurad Tir yr Abad yn y sir honno yn 1739. Daeth yn ficer Merthyr Cynog (yn sir Frycheiniog eto) yn 1741, a pharhau i ddal y fywoliaeth honno o 1746 hyd 1758 pryd yr oedd hefyd yn ficer Llanbister, sir Faesyfed. Yn 1758 fe'i penodwyd yn ficer Ceri, Sir Drefaldwyn. Yn 1752 cyhoeddwyd Y Fuchedd Gris'nogol, o'i Dechreu, i'w Diwedd mewn Gogoniant … gan Joan Scott, D.D., Person S. Giles yn y Meusyddyn Llundain. A Chyfieithiad Josua Thomas, Ficer Llanbister yn Sir Faesyfed, a Merthyr Cynog ym Mrycheiniog a Chaplain i'r Gwir Anrhydeddus Iarll Powis (Llundain, John Olifir, 1752). (Y mae rhestr tanysgrifwyr y gyfrol yn werthfawr.) Yn y flwyddyn ddilynol, y mae'n debyg, yr argraffwyd (gan Thomas Durston, Amwythig) ail lyfr yr awdur, sef Undeb mewn Gwlad, neu Bregeth ynghylch y Newidiad Diweddar a wnaed yn y Flwyddyn. Pregeth oedd hon i egluro amcan, ystyr, a chanlyniadau'r newid yn y dull o gyfrif amser a wnaethpwyd yn y flwyddyn 1752.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.