THOMAS, LEWIS (1565 - 1619), clerigwr ac awdur

Enw: Lewis Thomas
Dyddiad geni: 1565
Dyddiad marw: 1619
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John James Jones

Adweinir ef hefyd wrth yr enw ' Lewis Evans neu Thomas,' o dan yr hwn yr ymgorfforodd yn Gloucester Hall, Rhydychen, 11 Rhagfyr 1584, yn 16 mlwydd oed. Graddiodd yn B.A. o Goleg Brasenose, 15 Chwefror 1586/7. Y mae'n debyg mai brodor o sir Faesyfed ydoedd, ond ar sail y Rawlinson MSS. dywed Foster amdano, o dan yr enw Lewis Thomas, iddo gael bywoliaeth ym Morgannwg, ei fro enedigol. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o bregethau: (1) Seaven Sermons: or the exercises of seaven Sabbaths … Together with a short treatise upon the Commandments. Yn ôl Arber (Transcript of the Stationers' Register, iii, 140), cyhoeddwyd y gwaith hwn gyntaf yn 1599, ond ni wyddys am gopi o'r argraffiad hwnnw. Erbyn 1630 yr oedd o leiaf chwe argraffiad wedi eu cyhoeddi. (2) Demogoriae: certain lectures upon sundry portions of Scripture, 1600. Cyflwynwyd hwn i Syr Thomas Egerton, arglwydd-geidwad y sêl fawr, un o noddwyr cyntaf Thomas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.