THOMAS, LEWIS (1832 - 1913), arloeswr y diwydiant glo yn Queensland, Awstralia;

Enw: Lewis Thomas
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1913
Priod: Ann Thomas (née Morris)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr y diwydiant glo
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd yn 1832 yn Nhalybont, Sir Aberteifi. Priododd ag Ann Morris yn Llanfihangel-genau'r-glyn. Ymfudodd pan oedd yn 27 oed gan weithio ei ffordd trwy Victoria i Queensland. Torrodd y dunnell gyntaf o lo a gafwyd o lofa Bundamba ac agorodd lofa adnabyddus Aberdare lle y bu'n gweithio hyd 1890, pryd y codid rhwng 50,000 a 60,000 o dunelli y flwyddyn. Ymneilltuodd yn 1894 ac aeth i'r Senedd yn aelod dros Bundamba - ailetholwyd ef yn 1896 a rhoddodd y sedd i fyny yn 1899. Dewiswyd ef yn aelod o'r ' Legislative Council ' yn 1902. Daeth y drefedigaeth y bu ef yn gymorth i'w sefydlu yn Blackstone yn ben canolfan y bywyd a'r diwylliant Cymreig yn Queensland. Bu farw 16 Chwefror 1913 a chladdwyd ef yng nghladdfa Ipswich. Gwaddolodd ' Ysgoloriaeth Lewis Thomas ' yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, er budd myfyrwyr o Dalybont a'r cylch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.