THOMAS, MARGARET (1779 -?), emynyddes;

Enw: Margaret Thomas
Dyddiad geni: 1779
Priod: Edward Thomas
Priod: Edward Williams
Rhiant: William Llwyd
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: emynyddes;
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

merch William Llwyd o'r Faenol, ger Bangor, Sir Gaernarfon. Priododd yn ieuanc ag un Edmund Williams, ac eilwaith (c. 1817) ag Edward Thomas, Talybont Uchaf, Llanllechid, blaenor yn y Gatws (Methodistiaid Calfinaidd), ger Bangor. Ceir ei gwaith prydyddol yn ei llawysgrif ar ddail gwynion hen argraffiad o'r Beibl, Geiriadur T. Charles, a hen gopi o'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Cyhoeddwyd nifer o'i hemynau gan T. Levi yn Y Traethodydd, 1904, a cheir y pennill ' Dyma Feibl annwyl Iesu,' etc., yn eu plith. Tybir mai hi biau'r hen bennill, ac nis priodolir i neb arall. Cyhoeddwyd ef gyntaf, hyd y gwyddys, yn ail argraffiad casgliad T. Owen o emynau (Llanfyllin, 1820).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.