THOMAS, MESAC (1816 - 1892), esgob yn y trefedigaethau

Enw: Mesac Thomas
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1892
Rhiant: Elizabeth Thomas
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob yn y trefedigaethau
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn y Ty-poeth, Cwm Rheidol, plwyf Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi, yn fab i John Thomas, ysgolfeistr, ac Elizabeth ei wraig; bedyddiwyd ef 21 Mai 1816. Cafodd ei addysgu yn ysgolion Croesoswallt ac Amwythig. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, a graddio yno yn B.A. yn 1840; daeth yn M.A. yn 1843 ac yn D.D. yn 1863. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1840 ac yn offeiriad yn 1841 yn esgobaeth Caerwrangon, a gwasnaethodd fel curad mewn dau blwyf yn Birmingham; yna codwyd ef yn ficer Tuddenham, Suffolk (1843), ac Atterbury, swydd Warwick (1845). Wedyn daeth yn ysgrifennydd cymdeithas a ofalai am eglwysi ar y Cyfandir ac yn y trefedigaethau, ac yn 1863 cysegrwyd ef yn esgob cyntaf Goulburn, New South Wales, Awstralia. Llafuriodd yno hyd ei farw, 16 Mawrth 1892.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.