THOMAS, THOMAS MORGAN (1828 - 1884), cenhadwr

Enw: Thomas Morgan Thomas
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1884
Priod: Caroline Hutchinson Thomas (née Elliott)
Priod: Anne Thomas (née Morgan)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ganwyd yn Llanharan, Sir Forgannwg, 13 Mawrth 1828. Aeth i Goleg Aberhonddu yn 1854 ac fe'i ordeiniwyd i'r maes cenhadol yng Nghwmbach, Aberdâr, 11 Mai 1858. Priododd Anne Morgan, merch Jonah Morgan, gweinidog yr Annibynwyr yng Nghwmbach. Ym Mehefin 1858 hwyliodd y ddau i Matabele-land, De Affrica. Bu ei wraig farw yn 1862 ac yn 1864 priododd yntau eilwaith â Caroline Hutchinson Elliott, merch William Elliott, cenhadwr yn Ne Affrica. Yn Ebrill 1871 dychwelodd i Gymru. Cododd annealltwriaeth rhyngddo ef a Chymdeithas Genhadol Llundain a diswyddwyd ef Hydref 1871. Cyflwynwyd tysteb o tua mil o bunnoedd iddo oddi wrth eglwysi Cymru yn 1874, a dychwelodd i Matabele-land ar ei gyfrifoldeb ei hun. Cyhoeddodd lyfr emynau ac amryw lyfrau elfennol yn iaith y brodorion. Cyhoeddodd hefyd lyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg dan yr enw Un Mlynedd ar Ddeg yng Nghanolbarth Deheuol Affrica (Llundain, 1873). Bu farw 8 Ionawr 1884.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.