THOMAS, NICHOLAS (bu farw 1741), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau, Caerfyrddin (a Henffordd)

Enw: Nicholas Thomas
Dyddiad marw: 1741
Priod: Margaret Thomas (née Roderick)
Priod: Margaret Thomas (née Evans)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Yn 1714 argraffodd John Rogers yn Amwythig, Dirgelwch … sef Llyfr y Tri Aderyn (Morgan Llwyd o Wynedd) dros Nicholas Thomas a Lewis Thomas (gwerthwr llyfrau teithiol, a'i gartref yn Llangrannog, Sir Aberteifi, oedd Lewis Thomas), ac ychydig yn ddiweddarach, sef 1718, yr oedd Nicholas Thomas yn dysgu crefft argraffu yn Amwythig, naill ai yn swyddfa y John Rogers uchod neu yn swyddfa John Rhydderch; flwyddyn yn gynt (?), argraffesid baled o'i waith, sef Newyddion Da i'r Dynjon Gwaitha, gan Willoughby Smith yn Henffordd. Yr oedd ymhlith nifer o wŷr, o gyffiniau Castellnewydd Emlyn, etc., a oedd yn awyddus i ledaenu llenyddiaeth Gymraeg trwy gyfrwng yr argraffwasg, a dyna paham y bu iddo, gydag ychydig eraill, berswadio Isaac Carter i sefydlu ei wasg yn Nhrehedyn, Castellnewydd Emlyn, a'i noddi yn ystod blynyddoedd cyntaf yr antur honno. Sefydlodd ei wasg ei hun yng Nghaerfyrddin yn 1721 - y gyntaf yn y dref honno; am deitlau rhai o gynhyrchion y wasg newydd hon gweler Ifano Jones, A history of printing and printers in Wales. Bu un John Williams yn bartner gydag ef am gyfnod yng Nghaerfyrddin.

Bu Nicholas Thomas yn argraffu yn Henffordd am gyfnod - yn 1734 a 1735; yma, fodd bynnag, gweithio yr ydoedd dros Simon Thomas. Argraffodd Athrawiaethau Difinyddawl yn Henffordd yn 1734, 'dros S.T. ' Yn 1735 cyhoeddwyd Histori yr Heretic Pelagius , gwaith Simon Thomas. Nicholas Thomas a argraffodd hwn hefyd, yn Henffordd mae'n debyg, gan nad oes gofnod am unrhyw lyfr wedi dyfod o wasg Nicholas Thomas yng Nghaerfyrddin yn 1734 a 1735; yn niwedd 1733 yr argraffodd Nicholas Thomas a John Williams, yng Nghaerfyrddin, un o almanaciau John Rhydderch. Gwyddys, fodd bynnag, ei fod yn ôl yn y dref honno erbyn 1739 ac iddo barhau i argraffu yno hyd 1740; awgryma Ifano Jones iddo ddychwelyd i Gaerfyrddin wedi i Simon Thomas orffen dysgu crefft argraffu ganddo.

Priododd Nicholas Thomas ddwywaith - (1), 1720, Margaret Evans, yn Cenarth; a (2), 11 Mai 1731, Margaret Roderick, Llansadwrn. Claddwyd ef 30 Mehefin 1741 ym mynwent eglwys S. Pedr, Caerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.