THOMAS, Syr NOAH (1720 - 1792), meddyg

Enw: Noah Thomas
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1792
Rhiant: Hophni Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghastell Nedd yn 1720, yn fab i Hophni Thomas, capten llong. Bu yn ysgol Oakham; aeth yn 1738 i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, a graddiodd yn 1742 (M.D. 1753). Ymsefydlodd yn Llundain; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1753, ac y mae'n eglur iddo ennill bri fel meddyg - ef oedd meddyg Siôr III, ac urddwyd ef yn farchog yn 1775. Bu farw yn Bath, 17 Mai 1792. Y mae ei enw ar y pedair rhestr sydd gennym o aelodau Cymdeithas gyntaf y Cymmrodorion, a gellir ynddynt ddilyn ei symudiadau: o Leicester Square i Carey Street ac oddi yno i Albemarle Street.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.