THOMAS, HUGH OWEN (1834-1891), meddyg esgyrn

Enw: Hugh Owen Thomas
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1891
Priod: Elizabeth Thomas (née Jones)
Rhiant: Jane Thomas (née Owen)
Rhiant: Evan Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg esgyrn
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Arthur Rocyn Jones

Ganwyd 23 Awst 1834 yn Bodedern, sir Fôn. Yr oedd yn disgyn o deulu a ddechreuodd gyda pheth trychineb a mesur o ramant. Yn y 18fed ganrif bu llongddrylliad ar arfordir plwyf Llanfairynghornwy, a'r unig un a achubwyd oedd bachgen yn siarad Sbaeneg. Mabwysiadwyd ef gan gwpl diblant yn dwyn y cyfenw Thomas ac yn ffermio maes rhwng yr eglwys a glan y môr. Cymerth y bachgen yr un cyfenw, priododd ferch o sir Fôn, a daeth yn gyndad llinell o feddygon esgyrn.

EVAN THOMAS (1735 - 1814), meddyg esgyrn

Y cyntaf o'r teulu i ymarfer fel meddyg esgyrn; oblegid ei allu arbennig daeth yn adnabyddus iawn yng Ngogledd Cymru ac yn rhai o siroedd y goror. Ceid ynddo gyfuniad o bersonoliaeth gref a difrifwch a phlaendra crefyddol. Ceir yn eglwys Llanfairynghornwy dabled goffa (a osodwyd yno gan yr is-iarll Bulkeley) yn talu teyrnged iddo am y lles a ddeilliodd trwyddo i'w gyd-ddynion.

Mab i Evan Thomas oedd

RICHARD EVANS (1771 - 1851), meddyg esgyrn

Cilmaenan, Llanfaethlu, sir Fôn; fe'i gelwid yn Richard ap Evan i gychwyn ac wedyn yn Richard Evans. Bu yntau yn feddyg esgyrn llwyddiannus, ac yr oedd, fel ei dad, yn ddyn yr oedd crefyddolder blaen a chydwybodolrwydd yn nodweddion arbennig yn ei natur. Nid oedd, fodd bynnag, mor adnabyddus â'i dad.

EVAN THOMAS (1804 - 1884), llawfeddyg orthopedig

Mab Richard Evans. Daeth yn fwy enwog fel meddyg esgyrn na hyd yn oed ei daid. Symudodd ef i Lerpwl c. 1835. Bu 72 Great Crosshall Street yn ganolfan practis helaeth mewn trin afiechydon esgyrn a chymalau. Pan oedd asgwrn wedi cael ei symud o'i le priod defnyddiai ddull a elwid yn 'slow traction' â chwerfan ('pulley') i helpu i asio esgyrn a dorrwyd. Credai mewn peri i'r rhai a ddioddefai oddi wrth anhwyldeb ar yr esgyrn orffwys am gyfnod hir a thrwy hynny gallodd arbed llawer coes a llawer braich rhag cael eu torn ymaith gan lawfeddyg. Priododd Jane Owen, Ty'nllan, Bodedern, sir Fôn, chwaer Dr. Owen Roberts, Llanelwy, a gymerth eu pum mab yn brentisiaid, y naill ar ôl y llall, cyn iddynt ddechrau ar eu cyrsiau meddygol yn y colegau. Ymddeolodd Evan Thomas yn 1863 a mynd i fyw yn Bryn Eglwys, Llanfwrog, sir Fôn, lle y bu farw yn 1884. Yr oedd yn perthyn i Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'), ac yr oedd y meddyg a'r bardd yn debyg o ran pryd a gwedd: ysgrifennodd ' Eben Fardd ' farwnad i Richard Evans.

Mab hynaf Evan Thomas oedd

HUGH OWEN THOMAS (1834 - 1891), llawfeddyg

Cafodd ei addysg yn y College, New Brighton, lle yr arhosodd nes bod yn 17 oed. Cafodd ei brentisio gyda'r Dr. Owen Roberts cyn mynd i Brifysgol Edinburgh yn 1855; ar ôl bod yno ddwy flynedd symudodd i University College, Llundain, i dreulio'r drydedd sesiwn. Daeth yn M.R.C.S. (England) yn 1857 ac aeth i Baris i astudio llawfeddygiaeth yn rhai o ysbytai Ffrainc. Wedi dychwelyd bu gyda'i dad am flwyddyn ac wedyn dechreuodd weithio ar ei gyfrifoldeb ei hun yn 24 Hardy Street, Lerpwl. Yn 1866 prynodd 11 Nelson Street, Lerpwl. Helaethodd y tŷ er mwyn cael dwy ystafell aros, pedair ystafell i weled y rhai a geisiai gyngor a thriniaeth, ystafell arall i wasnaethu fel 'surgery,' a gweithdy; gwnaethpwyd y tŷ yn Hardy Street yn ysbyty preifat gydag wyth o welyau yng ngofal nyrs drwyddedig. Cyflogai of a hefyd weithiwr lledr, ac yr oedd y ddau hyn yn llawn gwaith yn gwneuthur splintiau ac offer eraill a gynlluniai H. O. Thomas ei hunan. Yr oedd yn glinic nad oedd iddo mo'i gyffelyb yn unman arall; yn ddiweddarach daeth y lle yn fyd-enwog. Yr oedd dau beth yn cyfrif paham y daeth Thomas yn llawfeddyg o deip eithriadol. Y cyntaf oedd y cefndir teuluol; yr oedd wedi etifeddu syniadau llawfeddygol a ystyrid yn 'anuniongred' - syniadau yr oedd ef yn gweithredu fel cyfryngwr ac esboniwr iddynt i'w gyd-lawfeddygon. Yn yr ail le yr oedd y damweiniau mynych a ddigwyddai yn Lerpwl a'r cylch, ac afiechydon pobl dlodion y gymdogaeth, yn rhoddi iddo gyfle i ddefnyddio a datblygu mewn modd helaeth ei ddulliau ef ei hun. Cynlluniodd sblintiau a phethau cyffelyb, lawer ohonynt yn eithaf syml yr olwg arnynt, er mwyn i aelodau a anafwyd neu gymalau yr oedd clefyd arnynt gael gorffwys a'u cadw am gyfnodau yn gwbl lonydd. Y mae'n debyg na lwyddodd yr un llawfeddyg arall fel y llwyddodd ef wrth drin, yn nhai gweithwyr, esgyrn toredig, ac ni chafodd yr un llawfeddyg arall ym Mhrydain gyfle i drin cymaint o esgyrn toredig ag a driniai ef, a phrin y rhoes neb gymaint o sylw manwl i'r gwaith ag a roddai ef. Arwyddeiriau Thomas oedd 'gorffwys' a 'gosodiad cywir,' a llwyddodd i gael y ddeupeth hyn trwy gyfrwng ei sblintiau cyn i belydrau X gael eu darganfod.

Yn 1875 cyhoeddodd Thomas ei lyfr cyntaf, Diseases of the Hip, Knee, and Ankle Joints : yn hwn y disgrifiwyd am y tro cyntaf ei sblintiau ar gyfer y cluniau a'r penelin a ddaeth yn fydenwog. Dangosodd y llyfr hwn ei fod yn feddyliwr gwreiddiol ym maes llawfeddygiaeth. O hynny ymlaen hyd ddiwedd ei oes cafwyd ganddo, o bryd i bryd, gyfres o gyfraniadau i wyddor meddygiaeth a llawfeddygiaeth. Serch hynny, ychydig o ddylanwad a gafodd ei ddysgeidiaeth, yn bennaf am nad oedd ei weithiau wedi eu cynhyrchu mewn dull da a'i fod yn defnyddio cyhoeddwr anhysbys. Mwy na hynny, yr oedd yn gweithio ar ei ben ei hun ac ni ellid ei ddarbwyllo i siarad mewn cyfarfodydd gwyddonol a phroffesiynol am ei ddull o drin.

Ni chydnabuwyd ei waith yn ystod ei fywyd; yn ddiweddarach, fodd bynnag, llwyddodd ei nai a'i ddisgybl, Syr Robert Jones, i ddwyn ei ddysgeidiaeth a'r defnydd a wnâi o'r sblintiau i sylw llawfeddygon. Yn ystod rhyfel 1914-9 ac wedi hynny bu'r ' Thomas caliper ' yn foddion i achub miloedd o aelodau; erbyn heddiw fe'i defnyddir yn gyffredinol ym mhob ysbyty bron trwy'r byd.

Bu H. O. Thomas farw, wedi gorweithio, 6 Ionawr 1891, yn 57 oed. Yr oedd yr arddangosiad o ofid ar adeg ei farw a'i gladdu yn eithriadol. Ni lwyddodd un arloeswr arall gymaint ag ef i sefydlu egwyddorion sylfaenol llawfeddygiaeth 'orthopedig.'

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.