THOMAS PENLLYN (bu farw 1623), bardd

Enw: Thomas Penllyn
Dyddiad marw: 1623
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Yr oedd yn un o ddisgynyddion Tudur Penllyn. Disgrifir ef fel 'Bardd yr urddasol Dŷ yn Rhiwedog,' Sir Feirionnydd (Cwrtmawr MS 11B ). Ceir gweithiau a briodolir iddo yn Cwrtmawr MS 243B ; Llanstephan MS 35 , Llanstephan MS 124 , Llanstephan MS 133 ; NLW MS 3061D ; NLW MS 16B , NLW MS 278B , NLW MS 567B , NLW MS 5269B , NLW MS 6494D , NLW MS 6495D , NLW MS 6496C , NLW MS 7012C ; Peniarth MS 87 ; Cardiff MS. 20. Canodd amryw gywyddau i deulu Salsbri, Llewenni, a hefyd i'r Doctor John Davies, Mallwyd. Ceir marwnadau iddo gan Richard Phillip a Gruffydd Hafren yn NLW MS 719B a Cwrtmawr MS 11B .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.