THOMAS, DAVID RICHARD (1833-1916), clerigwr a hanesydd;
g. yn 1833 (bedyddiwyd 14 Medi 1833) yn ail fab a thrydydd plentyn i Owen a Mary Thomas, ‘gentleman-farmer,’ Bodynfol, Llanfechain. Bu yn ysgol Rhuthyn dan Barnwell [q.v.], ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1852, er bod amgylchiadau'r teulu wedi gwaethygu yn herwydd marw sydyn y tad, a'r llanc yn gorfod cymryd swyddi fel athro yn y gwyliau i'w gadw ei hunan; graddiodd yn 1856 — ymgeisiodd am gymrodoriaeth yn 1859, ond ni ddewiswyd ef. Urddwyd ef yn 1857 yn gurad Rhuddlan; bu wedyn (1859-64) yn gurad Selatyn, yn ficer Cefn Meiriadog (1864-77), yn ficer Meifod (1877-92), ac yn rheithor Llandrinio (1892-1916); penodwyd ef yn ganon yn Llanelwy yn 1881 ac yn archddiacon Maldwyn yn 1886. Yr oedd yn offeiriad ymroddgar yn ei blwyfi, yn archddiacon cydwybodol, yn amddiffynnydd selog i'w Eglwys, a chyhoeddodd bedwar llyfr crefyddol. Eto i gyd, fel hynafiaethydd a hanesydd y gŵyr y byd o'r tu allan amdano. Bu'n gefn mawr i Gymdeithas Hynafiaethol Cymru: yn gadeirydd ei phwyllgor, ac yn olygydd ddwywaith (1875-80, 1884-8) i Arch. Camb. — cyfrannodd dros 25 o ysgrifau iddo. Yn yr un modd, yr oedd yn gadeirydd pwyllgor y ‘Powysland Club,’ a bu am flynyddoedd lawer yn olygydd Mont. Coll. ac yn gyfrannwr cyson iddo. Ar ben y gweithgareddau hynafiaethol hyn (yr oedd yn F.S.A.), y gellir chwanegu atynt ei argraffiad o'r Cwtta Cyfarwydd, 1883, gwaith Peter Roberts [q.v.], a'i History of the Parish of Llandrinio, 1895, cydiodd mewn pwnc lletach ei apêl pan gyhoeddodd, 1902, The Life and Work of Bishop Richard Davies and William Salesbury. Ond ei gampwaith yw ei History of the Diocese of S. Asaph, a ddaeth allan yn ei ffurf gyntaf yn 1870-4, ond a helaethwyd yn dair cyfrol, 1906-13. Esgobaeth Llanelwy yn unig yng Nghymru hyd yn hyn a freiniwyd ag ymdriniaeth helaeth a manwl â'i hanes, ac ni ellir mesur dyled chwilotwyr diweddarach i'r archddiacon am y gwaith gwych hwn (cyhoeddodd hefyd yn 1888 lawlyfr bychan ar hanes yr esgobaeth). Bu f. 11 Hydref 1916.
Llyfryddiaeth:
- Foster, Alumni Oxon.;
- ysgrifau coffa yn Arch. Camb., 1916, 369-72, a Mont. Coll., xxxviii, 269-77;
- Cylch. Ll.G.C., haf 1946, 214-6;
- Owen Williams, Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, 163-4 (rhestr o'i weithiau).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.