THOMAS, ROBERT (bu farw 2 Ebrill 1692), pregethwr Piwritanaidd

Enw: Robert Thomas
Dyddiad marw: 2 Ebrill 1692
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Cysylltir ei enw a'r Neuadd Baglan (Morgannwg), ac efallai mai ef yw'r Robert Thomas a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn Awst 1658. Pan ddaeth yr Adferiad a Deddf Unffurfiaeth, ni chyfrifwyd ef ymhlith y gweinidogion a ddifuddiwyd yn 1662; pregethwr yn unig ydoedd, heb ei ordeinio. Yn 1669 adroddid ei fod yn pregethu 'n ddirgel i ryw ugain o ddilynwyr, a'r rheini'n gymysg o Annibynwyr a Bedyddwyr; dair blynedd cyn hynny (Mawrth 1666) yr oedd wedi sefydlu'r eglwys - a chlymu'r aelodau'n dynn wrth ei gilydd drwy gyfrwng cyfamod - a ddaeth yn enwog yn ei thro fel cynulleidfa Cilfwnwr, Tirdoncyn, Mynydd Bach, yr aelodau yn dod o blwyf Llangyfelach a'r plwyfi oddeutu. Cafodd drwydded i bregethu yn ei dŷ ei hun ym Maglan o dan ' Indulgence ' 1672, a rhydd Henry Maurice le pur amlwg iddo yn ei adroddiad am Sir Forgannwg yn 1675. Yn llawysgrifau Margam ymddengys ei enw yn bur aml fel gŵr yn pechu yn erbyn deddfau mynychu'r eglwys blwyf. Yn 1687 ef oedd un o'r ychydig Anghydffurfwyr yng Nghymru a gredodd yn Iago II a'i ddeclarasiwn rhyddid addoli; ar 15 Ebrill rhoddodd rybudd i Syr Edward Mansell o Fargam ei fod am gadw cwrdd crefyddol yn ei dŷ (Pen y Gisla erbyn hynny) ac yn nhŷ Mary Thomas yng Nghilfwnwr (ei chwaer, yn ôl pob tebyg). Cafodd weled Deddf Goddefiad yn dod i rym; disgrifir ef yn niwedd ei oes fel hen ŵr gweddol dda arno, duwiol ddigamsyniol, wedi gwasnaethu ei Arglwydd am dros 40 mlynedd. Erbyn 1692 gellir edrych ar gynulleidfa Robert Thomas fel un drwyadl Annibynnol, er ei fod ef ei hun yn fab i un o bregethwyr John Miles, ac wedi ei fedyddio yn Ilston, Tachwedd 1650.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.