THOMAS, ARTHUR SIMON (‘Anellydd ’; 1865-1935), clerigwr a llenor;
g. 5 Medi 1865 yng Nghrug-y-bar, Caeo, yn fab i D. Simon Thomas. Graddiodd (1897) yng Ngholeg Dewi Sant, ac urddwyd yn 1894 a 1895. Bu'n gurad yn Llanwynno, Llandeilo Fawr, Llan-gors, a S. Nicholas yn nhref Penfro, cyn cael bywiolaethau S. Michaels (tref Penfro), 1907-10; Maesmynus a phlwyfi eraill cyfagos, 1910-21; S. Nicholas a Granston yn sir Benfro, 1921-8; a Threfilan, 1928. Bu f. 3 Mawrth 1935. Yr oedd yn llenor ac eisteddfodwr anarferol ddiwyd; sgrifennodd i'r Geninen, Y Traethodydd, Yr Haul, a'r Llenor; bu'n olygydd cynorthwyol Y Llan ac yn gydolygydd Yr Haul; cyfansoddodd (a chyfieithodd) lawer o emynau yn y ddwy iaith, yn eu plith drosiadau o emynau Ann Griffiths.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.