THOMAS, THOMAS (1776 - 1847), clerigwr a hanesydd

Enw: Thomas Thomas
Dyddiad geni: 1776
Dyddiad marw: 1847
Plentyn: David Thomas Thomas
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan David Jones

mab John Thomas (1721 - 1795), ysgolfeistr yn Llechryd a chlerigwr a fu'n gwasnaethu ym Mlaenporth, Aberporth, Llandygwydd, a Llechryd. Fe'i ganed yn y Drewen, Blaenporth, yn 1776, ond symudodd y teulu i'r Henbant, Llandygwydd, tua 1785. Addysgwyd ef gan ei dad ac yn ysgol ramadeg Caerfyrddin o dan Barker. Urddwyd yn ddiacon 21 Medi 1788, ac yn offeiriad 10 Hydref 1789. Bu am dymor yn gurad yng Nghaerloyw, ond dychwelodd i gynorthwyo'i dad. Ar farwolaeth hwnnw gwnaethpwyd ef yn rheithor Aberporth, 18 Awst 1795, a churad Llandygwydd, 7 Medi 1795. Bu hefyd yn gurad i John Williams, Ystrad Meurig, ym Mlaenporth. Cafodd guradiaeth Llanddewi Aberarth ar gais Eliezer Williams yn 1816, a daliodd hi a rheithoraeth Aberporth hyd ei farw, 28 Chwefror 1847 (claddwyd ym Mlaenporth 4 Mawrth). Enillodd wobr am draethawd ar astudio Hebraeg yn 1810, ac yn 1822 cyhoeddodd Memoirs of Owen Glendower … with a sketch of the History of the Ancient Britons from the Conquest of Wales by Edward the First, to the present time. Rhoes gymorth i Nicholas Carlisle a Samuel Lewis gyda'u geiriaduron topograffyddol. Un o Gaerloyw oedd ei wraig, a bu ei fab, David Thomas Thomas, yn ficer Trelech a'r Betws o 1828 i 1875.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.