THOMAS, THOMAS (1804 - 1877), clerigwr

Enw: Thomas Thomas
Dyddiad geni: 1804
Dyddiad marw: 1877
Plentyn: Thomas Llewelyn Thomas
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 7 Hydref 1804, mab John Thomas o Lanfihangel-y-Creuddyn, Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yn Ystrad Meurig ac ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 29 Mawrth 1824. Graddiodd yn 1827, ac ar ôl bod yn athro yn Lerpwl am flwyddyn ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Luxmoore o Lanelwy, 20 Gorffennaf 1828, a'i drwyddedu i Lanfair Caer Einion. Derbyniodd urddau offeiriad, 26 Gorffennaf 1829, ac ar ôl tair blynedd yn Llanfair daeth yn gurad Rhiwabon. Ar 14 Ebrill 1835 penodwyd ef yn ficer Llanbeblig a Chaernarfon gan yr esgob Sumner o Gaer, a bu yno 24 blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn adeiladodd ysgolion yn y dref a gwneuthur gwaith bugeiliol gwerthfawr; bu ganddo hefyd ran flaenllaw yn sefydlu Coleg Hyfforddi Gogledd Cymru (yn awr Coleg y Santes Fair ym Mangor). O Gaernarfon dychwelodd i Riwabon yn ficer, ac ar ôl tair blynedd yno penodwyd ef i Lanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Yn 1864 penodwyd ef yn ganon yn eglwys gadeiriol Bangor.

Bu iddo ef a'i wraig dair merch a phum mab - un o'i meibion oedd yr ysgolhaig, athro a'r ieithydd Thomas Llewelyn Thomas (1840-1897). Bu Thomas Thomas farw yn Lanrhaeadr-yng-Nghinmeirch 9 Ionawr 1877, a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig, Nghaernarfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.