THOMAS, THOMAS (1880 - 1911), paffiwr

Enw: Thomas Thomas
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1911
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 8 Ebrill 1880 yng nghartref ei fam yng Nglynarthen, Ceredigion, ac fe'i magwyd ar fferm Carncelyn, Penygraig, Rhondda. Dechreuodd ei yrfa ar hyd y ffordd anodd, yn teithio o le i le â bwth paffio gyda James Driscoll a ' Freddie Welsh ' (F. H. Thomas). Ei brif ddull o'i baratoi ei hun ar gyfer ymladd oedd marchogaeth ar gefn ceffyl heb gyfrwy, a hyn, gan amlaf, ar hyd y bryniau uwchben Penygraig. Cynilodd bob ceiniog o'i enillion, ac er mwyn arbed talu arian am sparring partners, ymladdai â tharw o'r enw 'Billy One-horn.'

Ar ôl dyfod yn gampwr trymbwys y Rhondda, aeth Thomas i Lundain ac enillodd y gystadleuaeth ganolbwys yn y National Sporting Club. Yn 1899 enillodd bedair buddugoliaeth ychwanegol. Ond ei ymladdfa lwyddiannus gyntaf o bwys oedd honno ym Mai 1906 yn erbyn y Gwyddel, Pat O'Keefe. Pan gynigiwyd y ' Lonsdale Belt ' gyntaf i'r dosbarth o baffwyr canolbwys yn 1909, rhoddwyd ef i ymladd â Charlie Wilson, a churodd ef o fewn dwy rownd. Thomas felly oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddal y ' Lonsdale Belt ' yn ei ddosbarth (canolbwys).

Bu farw 13 Awst 1911 yng Ngharncelyn o drawiad ar y galon yn sgil niwmonia.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.