THOMAS, TIMOTHY, I (1720-1768), o'r Maesisaf, Pencarreg (Caerfyrddin), gweinidog y Bedyddwyr ac awdur

Enw: Timothy Thomas
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1768
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr ac awdur
Cartref: Maesisaf
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn y Tŷ-hen, Caeo, 2 Mawrth 1720/19, yn ail fab i Thomas Morgan Thomas a Jane ei wraig, ac yn frawd i Joshua Thomas, Llanllieni, a Zecharias Thomas, Aberduar. Bedyddiwyd ef yn 18 oed, a dechreuodd bregethu cyn ei 20 oed; bu'n fyfyriwr yn y Trosnant, 1740-1, ac yn 1743 ordeiniwyd ef yn weinidog ei fam-eglwys yn Aberduar a'r canghennau, lle y bu hyd ei farw 12 Tachwedd 1768. Claddwyd ef ym mynwent plwyf Pencarreg. Priododd (1), yn 1743, ferch o Lanllwnni, a fu farw ymhen y flwyddyn. Ganed iddynt ferch a briododd Rees Saunders, Bryn Llanllwnni, ewythr David Saunders, Merthyr; (2), 1753, ferch i Williams, Trebwl, ac ŵyres i deulu'r Maes-isaf, lle yr aeth yntau i fyw. Ganed iddynt bump o blant, gan gynnwys Timothy II a Thomas.

Yr oedd yn bregethwr o fri, ond ar wahân i'w gysylltiadau teuluol a'i wasanaeth i'r eglwys ieuanc yn Aberduar, fe'i cofir yn bennaf am ei weithiau diwinyddol, yn arbennig ei Traethiad am y Wisg-Wen Ddisglair, 1759 (ail arg., 1800). At hyn cyhoeddodd Y Garreg Wen neu Draethiad bychan ymherthynas i Siccrwydd (gyda rhai emynau), 1759; casgliad o emynau dan y teitl Moliant i Dduw, 1764; a dau draethawd - Amlygiad Byr, 1764, a Golygiad Byr ar arddodiad dwylo.

TIMOTHY THOMAS II (1754 - 1840), gweinidog

Ganed ei blentyn hynaf o'i ail briodas, yn y Maes-isaf, 1754. Dechreuodd bregethu yng ngaeaf 1778, a'i ordeinio yn Aberduar yn Hydref 1783. Hwn oedd unig faes ei lafur, and oherwydd gwaeledd symudodd yn 1831 i Aberteifi, cartref ei fab Joshua Morgan Thomas (bu farw 1853), athro ysgol a golygydd Greal y Bedyddwyr, ac yno y bu farw 21 Ionawr 1840. Claddwyd ef yn Aberduar. Brodor o Lanfynydd oedd ei wraig, a ganed iddynt 10 o blant, gan gynnwys TIMOTHY THOMAS III (1787 - 1870), gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn.

THOMAS THOMAS (1759 - 1819), gweinidog ac awdur

Ail fab o ail briodas Timothy Thomas I, a brawd efaill i John Thomas, M.R.C.S., Aberduar. Ganwyd 5 Mawrth 1759. Cafodd ei addysg yn ysgol David Davis, Castell Hywel, a'i fedyddio gan David Saunders yn Aberduar, Mawrth 1776. Derbyniwyd ef i goleg y Bedyddwyr, Bryste, yn 1777, a'i ordeinio yn Pershore, 1781 ? Yn 1788 symudodd oddi yno i eglwys Goodman Fields, London, gan gadw ysgol breswyl yn Mile End, ac yn 1799 ymddeolodd a mynd i fyw i Peckham. Priododd, 1781, Sarah (1762 - 1808), merch Robert Moseley, diacon yn eglwys y Bedyddwyr, Cannon Street, Birmingham, a ganed iddynt ddau fab a thair merch. Bu farw 4 Hydref 1819 a'i gladdu yn Bunhill Fields. Cyhoeddodd bregethau dan y teitlau The Mystery of the Seven Stars, 1809, a Jesus Christ an Object of Prayer, 1819; emynau Cymraeg a Saesneg, e.e. yn Greal y Bedyddwyr; a marwnadau i'w ewythr Zacharias Thomas a'i fodryb Mary Evans, Pantycelyn. Cyhoeddwyd ei bregeth angladdol yntau, o waith W. Newman, D.D., yn 1819. Gocheler rhag ei gymysgu â Thomas, Wareham, fel y gwnaed gan Blackwell (NLW MS 9272A ).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.