Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, DAVID VAUGHAN (1873-1934), cerddor; g. 15 Mawrth 1873 yn Ystalyfera, mab Jenkin Thomas. Symudodd y teulu i Bontarddulais a derbyniodd Vaughan Thomas ei addysg gerddorol gynnar o dan Dr. Joseph Parry, Abertawe. Aeth i Goleg Llanymddyfri ac ennill ysgoloriaeth agored mewn mathemateg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1894 (gydag anrhydedd) mewn mathemateg, ac yn ddiweddarach yn Mus. Doc. Bu'n athro am rai blynyddoedd yn ysgol Harrow ac yna dychwelodd i Gymru i gychwyn ar ei yrfa gerddorol. Priododd, 1906, â Morfydd Lewis, Pontarddulais, a bu iddynt dri mab; bu'r teulu'n byw yn Abertawe am lawer o flynyddoedd. Yn 1927 dewiswyd ef yn arholydd mewn gwledydd tramor i Trinity College of Music, Llundain; golygodd hynny iddo drafaelio llawer yng ngwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig, etc. Bu f. yn Johannesburg, De Affrica, 15 Medi 1934.

Ymhlith ei brif weithiau y mae ‘Llyn y Fan,’ a berfformiwyd gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol, Abertawe, 1907, ac wedyn yn Wrecsam yn 1912; ‘A Song for St. Cecilia's Day’ (Queen's Hall, Llundain, 1909); a ‘The Bard’ (Queen's Hall, Llundain, 1912). Ysgrifennodd nifer fawr o anthemau, caneuon, a rhanganau, i eiriau Cymraeg a Saesneg; gadawodd hefyd ar ei ôl lawer o gerddoriaeth offerynnol, y rhan fwyaf ohono heb ei gyhoeddi eto.

Fel cyfansoddwr cofir am Vaughan Thomas oblegid y gwreiddioldeb a'r ysgolheictod a welir yn ei osodiadau o farddoniaeth Gymraeg, yn enwedig yn ei ‘Saith o Ganeuon.’ Er nad ydynt mor adnabyddus, y mae ei osodiadau o ganeuon Saesneg George Meredith yr un mor nodedig am eu prydferthwch telynegol. Yr oedd Vaughan Thomas yn arloeswr yn y mudiad i arwain cerddoriaeth Cymru ymlaen o goralaeth gyfyngedig i ymarferiad mwy sensitif ac i ymhoffi mewn ffurfiau cerddorol eraill. Yn ei ddarlithiau a'i ddatganiadau cerddorol, ac yn ei waith yn awgrymu a chynllunio programau ar gyfer yr eisteddfod genedlaethol, rhoes arweiniad gref i gyfeiriad safonau newydd.

Trwythir cerddoriaeth Vaughan Thomas gan frwdfrydedd ei hoffter o elfennau cynhenid y diwylliant cenedlaethol, a'u mynegiant arbennig mewn cerddoriaeth.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Arthur Spencer Vaughan Thomas, M.A., Barnet

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS, DAVID VAUGHAN (Bywg., 886) Yn 1911 pan dderbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn eisteddfod Caerfyrddin y cymerodd Vaughan i'w enw. Bu yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman cyn mynd i Goleg Llanymddyfri, ac yn ystod 1873-1883 bu'r teulu'n byw yn Ystalyfera, Llantrisant, Maesteg, Llangennech a Dowlais. Graddiodd yn y 3ydd dosb. yn Rhydychen yn 1895, M.A. 1905, B.Mus. 1906, D.Mus. 1911. Ar ôl gadael Rhydychen bu'n athro mathemateg yn yr United Services College, Westward Ho! Aflwyddiannus fu ei gais i'w benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru yn 1919.

Llyfryddiaeth:

  • The Times, 17 Medi 1934;
  • T. Haydn Thomas, Welsh Music, 4 (1973), 2;
  • Ifor ap Gwilym, Y Traddodiad Cerddorol yng Nghymru (1978), 35.

Awdur:

Dr Llewelyn Gwyn Chambers, Bangor