THOMAS, DAVID WALTER (1829-1905), clerigwr;
g. 26 Hydref 1829, mab hynaf Evan Thomas o'r Bontfaen, Cellan, sir Aberteifi, a Margaret ei wraig. Addysgwyd ef yn y Mwmbwls, Abertawe, ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, ac ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 10 Mehefin 1847. Yr oedd yn ysgolor o'i goleg ac yn ‘Powis Exhibitioner.’ Cafodd anrhydedd yn y trydyd dosbarth yn y clasuron, a graddio B.A. yn 1851 ac M.A. yn 1854. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Wilberforce o Rydychen, 1852, ac yn offeiriad gan yr esgob Bethell o Fangor, 1853. Bu'n gurad Deneio (Pwllheli) a Llannor, 1853, ac yn gaplan yn Nhremadoc, 1854-5; ar 13 Awst 1855 penodwyd ef yn gurad parhaus Penmachno. Ar 14 Mawrth 1860 penodwyd ef yn ficer S. Ann, Mynydd Llandygai, a bu yno am 34 mlynedd. Yna, ar ôl blwyddyn yn ficer Braunston, swydd Northampton, dychwelodd i Gymru, Awst 1895, yn ficer Caergybi. Bu f. 27 Rhagfyr 1905, a'i gladdu yng Nghaergybi. Trwy ei ymdrechion ef yn bennaf y sefydlwyd eglwys Gymraeg yn y Wladfa, Patagonia, a gŵr o Lasinfryn, Hugh Davies, oedd y caplan cyntaf yno. Ysgrifennodd Thomas nifer o weithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn eu plith gyfres o bregethau ar y gwyrthiau, a bu'n gefnogwr cyson i'r Wasg Eglwysig Gymraeg. Yr oedd yn ganon yn eglwys gadeiriol Bangor. Yr oedd ei wraig,
ANNA (FISON ; ‘Morfudd Eryri ’; 1839-1920),
yn gymeriad nodedig. Ganwyd hi yn Barmingham, Suffolk, yr ieuengaf o 20 o blant Thomas Fison, a Charlotte, ei ail wraig, 14 Chwefror 1839. Addysgwyd hi yn Llundain a Cheltenham ac ar y Cyfandir; aeth i fyw at frawd iddi yn Rhydychen, ac enillodd feistrolaeth ar nifer o ieithoedd, gan gynnwys y clasuron. Dechreuodd hefyd ymddiddori yn y Gymraeg dan gyfarwyddyd y Dr. Charles Williams [q.v.], prifathro Coleg Iesu. Yn 1871 priododd David Walter Thomas, a magwyd eu plant (dau fab a thair merch) yn Gymry da. Ymdaflodd i'r bywyd Cymreig; cynhaliai ddosbarthiadau nos ar gyfer chwarelwyr yr ardal, a rhoddi llawer ohonynt ar ben y ffordd. Cystadlai hefyd mewn eisteddfodau, ac yn eisteddfod genedlaethol Caerdydd, 1883, hyhi a enillodd yng nghystadleuaeth y bryddest gyda chân Saesneg i Landaf. Bu'n flaenllaw hefyd yn yr ymdrechion i ddiwygio'r eisteddfod genedlaethol yn y 70au a'r 80au. Yn 1884 ymgeisiodd am gadair yr ieithoedd modern yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a bu bron â chael ei hethol. Bu f. 21 Chwefror 1920 yn Nyffryn Ardudwy, a'i chladdu yng Nghaergybi.
Llyfryddiaeth:
- Foster, Alumni Oxon.;
- Crockford;
- Yr Haul, Ionawr 1906 a Hydref 1950;
- N. Wales Chronicle, 29 Rhagfyr 1905;
- W. Glynn Williams, Memoir of Mrs. Anna Walter Thomas;
- ymholiadau personol.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth