THOMAS, WILLIAM (bu farw 1554), ysgolhaig mewn Eidaleg, a chlerc Cyfrin Gyngor y brenin Edward VI

Enw: William Thomas
Dyddiad marw: 1554
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig mewn Eidaleg, a chlerc Cyfrin Gyngor y brenin Edward VI
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Disgrifiwyd ei yrfa yn bur lawn gan Syr Daniel Lleufer Thomas yn y D.N.B. yn 1898, a gellir rhoddi amlinelliad o'r disgrifiad hwnnw fel hyn: Cymro ydoedd o sir Faesyfed (sir Frycheiniog ?) a gafodd ei addysg yn Rhydychen (o'r hyn lleiaf, derbyniwyd gŵr o'r un enw yn faglor yn y gyfraith ganon ar 2 Rhagfyr 1529) ac a dreuliodd tua phum mlynedd yn yr Eidal (Bologna, Padua, etc.), lle yr ysgrifennodd amddiffyniad i'r brenin Harri VIII - Il Pellegrino Inglese ne'l quale si defends l'innocente & la sincera vita de'l pio & religioso re d'lnghilterra Henrico ottauo, 1552, yn Fenis, efallai; gweler cyfieithiad Saesneg, wedi ei olygu gan J. A. Froude, a'i gyhoeddi yn 1861. Dychwelodd i Loegr yn 1549, y flwyddyn y cyhoeddwyd dau waith ganddo - Historie of Italie (arg. arall yn 1561) a Of the Vanitee of the World. Cyhoeddwyd ei Principal Rules of the Italian Grammar, with a Dictionarie for the better vnderstandynge of Boccace, Petrarcha, and Dante, yn 1550 (arg. eraill yn 1560?, 1562, 1567). Gwnaethpwyd ef yn glerc Cyfrin Gyngor Edward VI yn 1550; rhoddwyd iddo brebend yn eglwys gadeiriol S. Paul, Llundain; cafodd hefyd dollau Llanandras (Presteign), Llanfair-ym-Muellt, ac 'Elfael,' ynghyd â phersoniaeth Presteign a'i ddewis yn noddwr ficeriaeth yr un lle (26 Hydref 1552). Daeth yn athro gwleidyddol i'r brenin, a thynnodd allan gyfres o gyfarwyddiadau iddo; manylion yn D.N.B. Ym mis Ebrill 1551 fe'i dewiswyd yn aelod o'r llys-genhadaeth, o dan farcwis Northampton, a aeth i Ffrainc ym Mehefin i geisio trefnu priodas rhwng Edward a'r dywysoges Ffrengig Elisabeth. Cyflwynasai i'r brenin cyn hyn ei gyfieithiad Saesneg o waith mewn Eidaleg - sef hanes Josaphat Barbaro o'i deithiau i'r Dwyrain; cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn gan yr Hakluyt Society yn 1873, gyda rhagair gan yr arglwydd Stanley o Alderley. Pan ddaeth Mari i'r orsedd, collodd Thomas ei holl swyddi, etc. Bu iddo ran yng nghynllwyn Wyatt, 1553-4, cymerwyd ef i'r ddalfa, cyhuddwyd ef o gynllwynio i roddi Mari i farwolaeth, a chafodd ei ddienyddio ar 18 Mai 1554.

Ysgrifennai D. Lleufer Thomas yn 1898. Wedi hynny darganfuwyd ffeithiau eraill ynglŷn â gyrfa William Thomas, a defnyddiwyd y rhan fwyaf ohonynt gan E. R. Adair yn ei 'William Thomas: A Forgotten Clerk of the Privy Council' a gynhwysir yn Tudor Studies presented … to Albert Frederick Pollard (London, 1924). Awgryma Adair y gallai Thomas, enw yr hwn a gysylltid gan draddodiad â Lanthomas, plwyf Llaneigon, sir Frycheiniog, fod naill ai yn fab hynaf Thomas ap Philip ap Bleddyn neu mai ef oedd William, unig fab Walter Thomas, Crughywel, sir Frycheiniog, a Writtle, Essex, gwas fryddlon Thomas Cromwell; yr oedd Walter Thomas yn byw yn y Temple, Llundain, ym mis Awst 1536. Awgrymasai Lleufer Thomas mai William Thomas yr erthygl hon oedd y William Thomas a fu, gyda chomisiynwyr eraill, yn chwilio i mewn i enghreifftiau o ofyn am or-dalu yn sir Faesyfed ac ar y goror - mater yr anfonwyd o Lwydlo adroddiad i Gromwell arno gan y comisiynwyr hyn (27 Ionawr 1533-4). Fel y dengys Adair, William Thomas oedd y Sais [sic] cyntaf i ddangos yn ei weithiau fod ganddo ryw wybodaeth am Machiavelli ac amgyffrediad o werth athroniaeth wleidyddol yr Eidalwr hwnnw. Y mae'n arwyddocaol hefyd, medd Adair, mai Thomas oedd y cyntaf i ganmol gwerth yr iaith Saesneg fel iaith i'w hysgrifennu er ei mwyn ei hun ac nid (yn unig) fel cyfrwng i ddysgu Groeg neu Ladin, ac iddo gynghori dysgu Saesneg yn yr ysgolion; yr oedd felly yn gwneud yr awgrymiadau hyn tua 30 mlynedd cyn i Richard Mulcaster, y gŵr a gaiff y clod fel arloeswr yn y mater, wneuthur hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.