THOMAS, WILLIAM (bu farw 26 Gorffennaf 1671), Llantrisant ym Mynwy, arweinydd y Bedyddwyr rhydd-gymunol yn neheubarth y sir honno, yng nghyfnod yr Adferiad

Enw: William Thomas
Dyddiad marw: 26 Gorffennaf 1671
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd y Bedyddwyr rhydd-gymunol yn neheubarth y sir honno, yng nghyfnod yr Adferiad
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Credir, ond heb brawf sicr, ei fod (fel Bedyddiwr) yn un o gynorthwywyr William Wroth yn Llanfaches; y mae'n bendant sicr nad ef oedd y William Thomas a fedyddiwyd yn Ilston yn Nhachwedd 1650. Gellir yn hawdd gredu yn ei gyfeillgarwch â Walter Cradock, a'i fod yn un o'r pregethwyr Piwritanaidd a fudodd i Fryste a Llundain yn 1642-3; pan ddaeth yn ei ôl, nid oes sôn amdano yn cael dimai o dâl allan o'r degymau; hefyd, cadwodd ei bobl rhag myned yn Annibynwyr ar y naill law, na phleidio caeth-gymundeb ar y llall; yn wir, ergyd geiriau Henry Maurice yn 1675 yw bod amryw o Fedyddwyr caeth y Fenni, y rhai na chredent mewn arddodi dwylo, wedi ymuno â chynulleidfa William Thomas. O dan gysgod deddfau celyd Clarendon, gwlad ei weithgarwch oedd hyndrydau canol y sir, gyda'i bencadlys yn Llantrisant (yr oedd wedi priodi â merch George Morgan o'r plwyf hwnnw). Nid oedd Anghydffurfiwr bywiocach nag ef yn y wlad; adroddai'r ysbïwyr yn 1669 y pregethai mewn pedwar o gyfarfodydd dirgel, a phwysleisir yr anhawster o ddod o hyd iddo yn Llangwm, gan fod yno bump o dai yn ei dderbyn (serch hynny, un 'conventicle' oeddynt, pum cangen ar un pren). Nid oedd dim a'i rhwystrai rhag croesi Môr Hafren i Fryste, at Fedyddwyr rhydd-gymunol Broadmead; bu yno deirgwaith yn 1667, un ai yn rhoddi cynghorion ynghylch dewis henuriaid, neu fedyddio yn Baptist Mill. Bu farw yn yr harnais yn 1671; ar ôl ei ddydd ef gofelid am y trypiau rhydd-gymunwyr gan y Dr. Christopher Price o'r Fenni a Thomas Quarrel o Shirenewton.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.