THOMAS, WILLIAM (fl. c. 1685 - c. 1740?), ysgrifennydd i Robert Harley, iarll 1af Oxford

Enw: William Thomas
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd i Robert Harley, iarll 1af Oxford
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William Llewelyn Davies

mab Thomas Thomas ' gent,' Llanymddyfri; yr oedd yn frawd i Timothy Thomas (1694 - 1751). 'He never had any Academical Education' meddai Thomas Hearne amdano. Serch hynny yr oedd yn ŵr dawnus mewn rhai cyfeiriadau ac yn gallu bod o gymorth gyda ' Moses Williams's Design of printing some British or Welch Things, & he is mightily for having them only in yt Language' (Hearne, Collections, vii, 50). Ceir ei enw fel tanysgrifiwr at fwriadau llyfryddol Moses Williams. Tybia Hearne iddo gychwyn fel gwas i Robert Harley; yn ddiweddarach daeth yn ysgrifennydd iddo. Y mae yn B.M. Harl. MS. 7526 lythyr a ysgrifennodd Moses Williams 16 Ebrill 1719, at frawd William Thomas sef Timothy Thomas lle y cyfeiria Williams at William Thomas dan yr enw ' Gwilym Gwalstawd Ieithoedd '; y mae hyn yn awgrymu bod gan William Thomas rywfaint o allu i ddysgu ieithoedd. Ceir yng nghatalog yr Hist. MSS. Comm. bapurau a dogfennau duc Portland lythyrau a ysgrifennodd William Thomas, 1708 a 1709, at Edward Harley, mab yr iarll Oxford 1af, pan oedd hwnnw yn efrydydd yn Christ Church, Rhydychen, llythyrau yn rhoddi manylion am weithrediadau'r Senedd, etc., gan mwyaf; am gyfeiriadau eraill ato yn Portland MSS. gweler y mynegeion i wahanol gyfrolau y catalog. Yn B.M. Harl. MS. 7526 y mae dau lythyr a ysgrifennwyd ganddo at Edward Harley, ail iarll Oxford, yn 1730 - y ddau yn delio â barddoniaeth Gymraeg gynnar (eithr sylwer mai copi yw'r ail lythyr o lythyr gan Moses Williams). Am gyfran William Thomas yn yr argraffiad pwysig o farddoniaeth Geoffrey Chaucer a gyhoeddwyd yn 1721 gweler yr erthygl ar ei frawd Timothy; er mai Timothy a gwplaodd y gwaith hwnnw credir mai William a gywirodd ac a ychwanegodd at y bywgraffiad a gychwynasid gan John Dart.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.