THOMAS, WILLIAM (1723 - 1811), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: William Thomas
Dyddiad geni: 1723
Dyddiad marw: 1811
Priod: Catherine Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn y Dyffryn Uchaf, Margam, Morgannwg. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howel Harris yn 1739, ac ymunodd â seiat yr Hafod yn 1743. Ar ôl priodi symudodd i dyddyn ger hen gapel y Dyffryn, a bu ei gartref yn llety fforddolion. Âi'n gyson i'r cymun yn Llangeitho a dechreuodd bregethu. Symudodd i'r Tŷ-draw, y Pîl, yn 1760, a phrynodd nifer o dai i'w cymhwyso yn gapel. Yng nghapel y Cyrneli, o barch iddo, y cynhaliwyd cwrdd misol (Calan) y Pîl gan Fethodistiaid Morgannwg am gyfnod maith. Yr oedd yn gyfaill mawr i David Jones, Llan-gan. Teithiodd lawer dros Gymru, ac er ei fod yn bregethwr effeithiol fe'i cofir am ei weddîau yn hytrach na'i bregethau. Yr oedd yn sant mawr hefyd, a dylanwadodd yn drwm ar ei gyfoeswyr. Bu farw 22 Awst 1811, a'i gladdu ym mynwent Margam gyda Catherine, ei briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.