THOMAS, WILLIAM (1749 - 1809), gweinidog gyda'r Annibynwyr a chyhoeddwr llyfrau

Enw: William Thomas
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1809
Plentyn: Mary Johns (née Thomas)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a chyhoeddwr llyfrau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd Awst 1749 yn ardal Mynydd-bach, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, ei dad o Forgannwg a'i fam o gymdogaeth Llanymddyfri. Collodd ei dad ac ef yn 12 oed, a symudodd ei fam i'w hen ardal. Cafodd addysg dda. Bu rai blynyddoedd gyda masnachwr yn Llundain, ond oherwydd afiechyd gorfu iddo ddychwelyd adref yn 23 oed. Nid oedd iddo gysylltiadau crefyddol er bod ei fam yn Eglwyswraig selog; daeth adfywiad crefyddol i'r fro ac mewn oedfa dan weinidogaeth Isaac Price yng Nghrugybar cafodd dröedigaeth. Yn fuan aeth i Dyn-y-coed, Cwm Tawe, i gadw ysgol, gan ymaelodi yno a dechrau pregethu. Yn 1779 derbyniwyd ef i athrofa'r Fenni ac urddwyd ef 2 Hydref 1782 yn weinidog eglwys Hanover, Llanofer, sir Fynwy. Ni bu'n gysurus yno ac yn 1787 derbyniodd alwad i eglwys y Bala, ac yno y bu weddill ei oes; bu farw Mai 1809 a chladdwyd ef ym mynwent capel Annibynnol y Bala. Ymddiddorai mewn cyhoeddi llyfrau, a olygodd golledion ariannol iddo rai prydiau. Cyhoeddodd Myfyrdodau diweddaf y Parch. Mr. Baxter ar farwolaeth (cyf. 1792); Arfogaeth y Gwir Gristion (cyf. o waith Gurnal a Dr. Guyse, 1794); Cyfaill i'r Cystuddiedig (J. Willison, cyf. 1797); Dioddefaint Crist (Dr. Jos. Hall, cyf., 1800), ac Angau i Angau y 'marwolaeth Crist (Dr. J. Owen, cyf.) yn un llyfr; Cyfarwyddiadau mewn Geography (cyf., 1805). Dechreuodd gyhoeddi cyfrol o ' Esboniad y Dr. Guyse ar y Testament Newydd; yr oedd wyth ran heb eu cyhoeddi adeg ei farw; cwplawyd ef gan y Parch. Eben. Jones, Pontypŵl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.