THOMAS, WILLIAM (bu farw 1813), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Undodaidd

Enw: William Thomas
Dyddiad marw: 1813
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Gŵr o Lanfynydd, a fedyddiwyd yno, ond a symudodd yn ifanc i Landyfân ac oddi yno i gymdogaeth Pant Teg ym mhlwyf Cilrhedyn. Y mae'n amlwg iddo ddechrau pregethu cyn 1795, oblegid fe'i ceir yn pregethu yng nghwrdd chwarter Llwyndafydd (Ceredigion) yn Chwefror 1795 (Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1942, 17). Yn 1796 urddwyd ef a Griffith Jones yn gyd-weinidogion Pant Teg, ac yn eironig ddigon gwelir ef yn cymryd rhan (1797) yn urddiad Titus Lewis ym Mlaen-y-waun. Ond yn rhwyg Arminaidd 1799 rhannwyd y gynulleidfa a'r gweinidogion. Daliodd Thomas a'r Arminiaid eu gafael ar y capel - heddiw, y mae capel Pant Teg yn un o'r unig dri chapel yng Nghymru sy'n arddel enw'r Bedyddwyr Cyffredinol (gweler dan Evan Lloyd, 1764 - 1847). Yn 1801, rhoes Thomas yr eglwys i fyny, ac ym mis Medi aeth i athrofa'r Bedyddwyr Cyffredinol yn Llundain (W. T. Whitley, Minutes of the General Association of General Baptists, ii, dan 1802), ond torrodd ei iechyd i lawr tua'r Nadolig a dychwelodd i Gymru. Yn 1806 (ibid., dan 1806) clywn ei fod wedi prynu tŷ yn Llangyndeyrn i'r gynulleidfa o Fedyddwyr Cyffredinol yno i addoli ynddo. Gwelir ei enw ryw hanner dwsin o weithiau yn y Monthly Repository rhwng 1806 a 1813; ac yn 1810 (Whitley, op. cit., dan 1810) nodir iddo anfon adroddiad ar gyflwr y Bedyddwyr Cyffredinol Cymreig i Lundain. Bu farw 26 Rhagfyr 1813; ar garreg ei fedd gelwir ef yn ' Unitarian minister.' Ni roddir ei oedran, ond y mae popeth a wyddom yn awgrymu mai dyn ifanc oedd - efallai tua'r 45. Collodd ei gynulleidfa ei chapel (i'r Bedyddwyr Neilltuol) yn 1820, a darfu tua chanol y ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.