THOMAS, EDWARD WILLIAM (1814-1892), cerddor;
g. 29 Ionawr 1814 yn Llundain. Yr oedd ei dad yn enedigol o Landwrog, ger Caernarfon, yn gerddor da, ac yn chwarae'r ffidil. Yn 1820 symudodd y teulu i Glynllifon, plasty'r arglwydd Newborough, gan i Robert Thomas y tad gael ei benodi yn arolygydd Glynllifon. Cafodd ei addysg gerddorol yn blentyn gan ei dad. Yn wyth oed aeth ef a'i chwaer i fyw gyda pherthynas i Rydychen, a chariodd ymlaen ei efrydiaeth gerddorol. Anfonwyd ef i'r Royal Academy of Music o dan ddisgyblaeth Moira a Spagnolette. Ymsefydlodd yn Llundain yn athro ar y ffidil, ac yn aelod o'r Royal Italian Opera. Penodwyd ef yn flaenwr Cerddorfa'r Philharmonic, Lerpwl, a daliodd y swydd am 34 o flynyddoedd. Bu am bum mlynedd yn flaenwr Cerddorfa'r Opera House, Leicester. Gwasnaethodd yn eisteddfodau cenedlaethol Llandudno 1864, y Rhyl 1865, Caer 1866, Pwllheli 1875, a Lerpwl 1885. Cyfansoddodd lawer o ddarnau cerddorol i'r ffidil, a chyflwynodd ei ‘Violin Concerto’ i'r cerddor enwog Joseph Joachim. Ceir ‘Cân Bugail Morgannwg’ ganddo yn Greal y Corau, Mai 1861. Yn ei flynyddoedd olaf symudodd i fyw i'r Dinas Dinlle Hotel, ac yno y bu f. 4 Hydref 1892. Claddwyd ef ym mynwent eglwys Llandwrog.
Llyfryddiaeth:
- Y Cerddor, Rhagfyr 1892, Awst a Thachwedd 1904;
- M. O. Jones, Byw. Cerdd. Cymr.;
Awdur:
Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn