TREVOR (TEULU), Trefalun, sir Ddinbych, a Plas Teg, Sir y Fflint

Sefydlydd teulu Trevor, Trefalun, oedd RICHARD, a enwir weithiau yn Syr RICHARD TREVOR (fl. 1500), 4ydd mab John Trevor ' hên ' a'r 19eg yn ei ddisgyniad 'o dad i dad' o Tudur Trevor a gawsai'r stad trwy briodas Mallt, aeres David ap Gruffydd, Allington (bu farw 1476). Bu JOHN TREVOR (a fu farw 1589), gor-ŵyr Richard, yn ymladd yn rhyfeloedd Harri VIII yn Ffrainc fel un o'r rhai a noddid gan deulu pwerus Sackville, a chyfrifid ei fod yn glynu wrth grefydd Rhufain mor ddiweddar â 1574. Adeiladodd Drefalun yn 1576 a threulio hwyrddydd ei oes yno; bu farw yn Llundain (cartref ei wraig), eithr rhoesai orchymyn i'w aer gladdu ei gorff gyda chyrff ei hynafiaid; gosododd yr aer feddrod alabastr yn eglwys Gresford i goffa ei dad - delw garreg o gorff ei dad yn gorwedd ar y beddrod, ac arysgrif Gymraeg (a ddyfynnir gan A. N. Palmer yn Gresford, 101). Y mae'n debyg mai brawd oedd RICHARD TREVOR (bu farw 1614), aelod o Doctors' Commons (18 Chwefror 1598), a barnwr yn llys y llynges, i John Trevor (Coote, Civilians, 65; McClure, Letters of J. Chamberlain, i, 544-5).

Mab hynaf John Trevor oedd

Syr RICHARD TREVOR (1558 - 1638), milwr, gwleidyddwr a gweinyddwr yn Iwerddon

Hyd yn oed cyn iddo ddyfod i'w etifeddiaeth fe'i ceir ef yn gorfod cymryd rhan mewn achosion yn Llys y Seren ('Star Chamber') i amddiffyn ei hawliau i'r eiddo. Yn etholiad seneddol y sir yn 1588 ceir ef yn ochri gyda'r blaid ('gwrthodwyr' Catholig gan mwyaf) a heriai uwchafiaeth teulu Salusbury Llewenni a theulu Almer, Almer; ar y cyntaf ef oedd yr ymgeisydd a oedd yn debyg o gael ei fabwysiadu gan y blaid ac yna bu'n bleidydd y gŵr a enillodd, sef John Edwards (gweler dan Edwards, Chirkland), ynghyd â'i dad-yng-nghyfraith Roger Puleston, Emral. Treuliodd y rhan fwyaf o 1595-8 fel milwr yn Iwerddon, lle y gwnaethpwyd ef yn farchog gan yr arglwydd-ddirprwy, 8 Mai 1597; yno yr oedd yn gapten y milwyr a godid yn sir Ddinbych ac a anfonid yno o dro i dro. Fel ei dri brawd (isod), câi yn awr nawdd Howard o Effingham, yr arglwydd-lyngesydd, a'i gwnaeth yn is-lyngesydd yng Ngogledd Cymru (c. 1596) a'i gyflwyno i'r Senedd dros un o'i fwrdeisdrefi poced ef (1597) yn dâl am wasanaeth a roes Trevor fel dirprwy-raglaw yn sir Ddinbych (1596) pan oeddid yn codi milwyr ar gyfer ymgyrch Howard ac Essex ar Cadiz gyda chymorth capteiniaid Essex - John Salusbury, Rhug, a John Lloyd, Bodidris, mab yr hwn a briodasai ferch Trevor. Yn 1598 arweiniodd lu Gogledd Cymru yn gyfan i Gaer yn barod i'w hanfon dros y môr i Iwerddon - eithr cyrhaeddodd Gaer heb y nifer cyflawn a ofynasid ganddo o sir Ddinbych oblegid iddo wrthod derbyn y milwyr newydd a gasglesid ynghyd gan bleidwyr teulu Llewenni; yn ddiweddarach parodd plaid Llewenni i roddi rhwystrau ar ffordd cais Trevor i godi milwyr yn sir Ddinbych i ymladd dros Essex yn Iwerddon i Trevor gymryd rhan mewn ysgarmes waedlyd yn Rhuthyn (1600). Ar ôl i Essex gael ei ddienyddio (1601) casglodd Trevor gynorthwywyr lleol gyda'r bwriad o geisio am y tro olaf ennill sedd seneddol y sir pan fyddid yn ethol yn Wrecsam ym mis Medi; fel y digwyddodd pethau yr oedd yr etholiad hwn i ddigwydd ar yr union adeg pryd yr oeddid yn codi milwyr ar gyfer ymladd yn Iwerddon; rhoes hyn gyfle i rai pobl i gario arfau ac arweiniodd hynny i gymaint perygl fel y gohiriwyd yr etholiad hyd ar ôl i'r Senedd gyfarfod; a phan gafwyd etholiad, plaid Llewenni a orfu. Cymerwyd y swydd o ddirprwy-raglaw oddi ar Trevor, ac am tua dwy flynedd bu'n brysur yn ymgyfreithio yn Llys Ystafell y Seren mewn achosion yn codi o'r gwaith codi milwyr yn 1596 a 1600 ac o etholiad 1601. Serch bod ei ddewis (1602) yn aelod o gyngor y goror yn gwrthweithio effaith yr ymgyfreithio hwn arno i raddau, aeth yn ei ôl i Iwerddon, 1603-6, yn bennaeth 50 o wŷr traed, ac, wedi hynny, 25 o wŷr meirch yng ngwarchodlu Newry.

Wedi dychwelyd adref yn 1606, ar bensiwn o £50 y flwyddyn, ymheddychodd Trevor â'r Llywodraeth, cafodd y swydd o ddirprwy-raglaw yn ôl, bu'n siryf sir Ddinbych yn 1610 a Sir y Fflint yn 1613, eithr ymddiswyddodd fel is-lyngesydd (1626) yn ffafr ei fab-yng-nghyfraith John Griffith (gweler dan Griffith, Cefnamwlch). Yn y cyfamser bu'n ymgyfreithio unwaith eto yn Llys y Seren â rhai o'i gymdogion (c. 1610) ac yn gwrthateb, 'in absentia,' achwynion yn Llys yr Uchel Gomisiwn (achwynion a daflwyd allan gan Laud fel 'of noe such moment') ynglŷn â'r gofadail a osododd er cof am ei wraig yn eglwys Gresford (1634-5). Cymerth hefyd rai cyfrannau o dir yn 'y blanfa' yn Ulster (1609-11), eithr nid ymddengys iddo dreulio llawer o amser (os dim, yn wir) yno hyd nes iddo, ac yntau bron yn 80 oed, fynd i Newry i fod yn llywiawdr y dref honno (c. 1634-5). Bu farw yn 1638 a chladdwyd ef yn Gresford, ac aeth Trefalun i feddiant ei nai, Syr John Trevor II.

Syr JOHN TREVOR I (bu farw 1630), gweinyddwr llyngesol a gwleidyddwr

Ail fab John Trevor yr hynaf. Etifeddodd ef rai o diroedd y teulu yn sir Ddinbych a bu'n amddiffyn ei hawl iddynt yn Llys Ystafell y Seren yn 1594 pan oedd eisoes yn byw yn Llundain yng ngwasanaeth Howard o Effingham; gwnaeth Howard ef yn ysgrifennydd iddo'i hun c. 1596 ac, ar 21 Rhagfyr 1598, yn archwiliwr ('surveyor') llongau'r frenhines, am gyflog o £40 ynghyd â chyfran o'r hyn a ddeilliai i'r llyngesydd fel 'ffermiwr' gwinoedd melus - at hyn hefyd gallodd Trevor ychwanegu'r swm pur sylweddol a gai o 'ffermio' y doll ar y glo a ddeuai o Newcastle. Defnyddiodd yr incwm i ychwanegu at hen blas y teulu, Plas Teg, a ddaeth iddo oddi wrth gangen gyfochrog o'r teulu; byddai'n byw yn y plasty hwnnw ar brydiau. Bu'n eistedd yn y Senedd o 1592 hyd 1614 dros fwrdeisdrefi a oedd o dan awdurdod Howard, gan ymddiddori yn bennaf mewn mesurau ynglŷn â'r llynges a llongau masnach a diddordebau ei noddwr; bu hefyd yn weithgar gyda materion Cymreig, e.e. cwestiwn llywodraeth y cyngor yn Llwydlo (1606), a'r llifogydd ym Morgannwg (1607). Gwrthwynebai'r ymchwil a fwriedid (1613) i weinyddiad y llynges, a phan ddaethpwyd â'r achwyniad ('impeachment') yn erbyn Francis Bacon, enwyd Trevor ymhlith y rhai a roesai lwgr-wobrwyon i'r cyhuddedig. Ar ôl marw ei noddwr (1624) troes Trevor at 3ydd iarll Pembroke a roes iddo fwrdeisdrefi yng Nghernyw i'w cynrychioli yn y ddwy Senedd nesaf. Urddwyd ef yn farchog, 13 Mai 1603; bu farw yn Plas Teg, 20 Chwefror 1630, a chladdwyd ef yn eglwys Estyn (' Hope ') gerllaw. Galwodd yr esgob Goodman ef yn ' wise, mild, temperate.'

Syr SACKVILLE TREVOR (bu farw c. 1633), morwr

Brawd iau Syr John Trevor I ydoedd ef. Cafodd ei enw bedydd ar ôl noddwr ei dad (uchod), a bu iddo yntau gyfran yn nawdd Howard o Effingham; trwy ddylanwad hwnnw cafodd fod yn bennaeth llong ar ôl llong yn ymgyrchoedd llyngesol 1596-1603, a syrthiodd pedair o longau yn perthyn i Sbaen (ac yn cario llwythi gwerthfawr) i'w ddwylo. Urddwyd ef yn farchog gan Iago I yn Chatham yn 1604 (4 Gorffennaf), ac yn 1623 cafodd ei anfon gan y brenin ar y llynges a oedd yn gwarchod y llong yr aeth y tywysog Siarl arni i Sbaen; llwyddodd i achub Siarl rhag boddi yn y porthladd. Priododd â gweddw Syr Henry Bagnall, ' marshall ' Iwerddon a laddwyd yn Blackwater, 1598, a thad gŵr merch Syr Richard Trevor. Bu Syr Sackville yn byw gyda'i wraig yn y Plas Newydd, sir Fôn, stad a ddaeth i'r Bagnaliaid trwy briodas â theulu Griffith (Penrhyn), ac etholwyd ef dros yr ynys yn Senedd gyntaf Siarl I; yn y Senedd honno yr oedd yn un o'r rhai a aeth â phetisiwn y Piwritaniaid i'r brenin, 8 Gorffennaf 1625. Y flwyddyn ddilynol archwyd i siroedd Môn, Dinbych, a'r Fflint ei gyflenwi â llong ('barque') o 30 tunnell i fod yn barod i wasnaethu yn y rhyfel yn erbyn Sbaen yr oeddid yn ei ailgychwyn. Ni ddaeth dim o hyn, eithr ym mis Mehefin 1627 yr oedd yn un o'r ychydig a enillodd glod yn y cyrch a wnaethpwyd i geisio rhyddhau yr Huguenotiaid yn La Rochelle, ac ym mis Medi ef a arweiniai y llongau rhyfel a osododd rwystr ar enau afon Elbe er mwyn cynorthwyo y milwyr a anfonwyd o dan Syr Charles Morgan i helpu brenin Denmarc. Hyd y flwyddyn 1634 ymgynghorid ag ef yn fynych ar gwestiynau megis cael dynion i'r llynges ac adeiladu llongau. Yr oedd yn perthyn i James Howell ac yn un o'i ohebwyr.

Syr THOMAS TREVOR (1572 - 1656), barnwr

Fel rheol cyfrifir ef yn ieuengaf o bedwar mab John Trevor; y mae'r D.N.B. yn rhoddi blwyddyn ei eni 14 blynedd yn rhy ddiweddar. Ganed ef yn Llundain, cafodd ei addysg yn y Middle Temple (Tachwedd 1592), a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr yn 1603. Fel ei frodyr bu yntau'n un o noddedigion teulu Howard a bu'n eistedd dros fwrdeisdrefi poced (i gyd bron yn newydd-freiniol) yn Seneddau 1601-25, lle yr oedd yn siarad yn fynych ac yn feirniadol ac yn aelod o amryw bwyllgorau (y ' Committee for Privileges ' er enghraifft); y oedd iddo ddiddordeb arbennig mewn mesurau cyfreithiol a Phiwritanaidd a materion a oedd a wnâi â Chymru, e.e. awdurdod y cyngor yn Llwydlo (1606), gwella'r Ddeddf Uno Cymru a Lloegr (ef oedd yr ymladdwr pennaf ynglŷn â'r cwestiwn arbennig hwn), a gwastatáu'r symiau arbennig ('subsidies') y gofynnid amdanynt o Gymru (1621 a 1624). Wedi cwymp teulu Howard (1618) fe'i trosglwyddodd ei hun i noddwr arall, sef 3ydd iarll Pembroke. Dylanwad Pembroke, gydag eiddo'r esgob John Williams, a barodd iddo gael ei wneuthur, ym mis Mai 1619, yn gyfreithiwr i Siarl, tywysog Cymru - Trefor a fuasai'n cynrychioli'r Middle Temple yn arwisgiad Siarl yn 1616; canlyniad hyn oedd iddo gael ei wneuthur yn farchog (18 Mai 1619), a dyrchafiad ym myd y gyfraith - yn 1625 (12 Mai) gwnaethpwyd ef yn un o farwniaid y Trysorlys, serch dywedyd amdano nad oedd yn nodedig fel gŵr y gyfraith ('no great lawier'). Ym mis Ionawr 1625 yr oedd yn un o bedwar comisiynwr yr ymddiriedwyd iddynt y gwaith o werthu tiroedd y Goron yn arglwyddiaeth Bromfield a Iâl; trwy hyn llwyddodd i ddyfod i feddiant sicrach ac ychwanegu at ei ddaliadau ef ei hun a rhai o denantiaid eraill y Goron ac er y bu ymchwil fanwl i'r gweithrediadau hyn cawsant eu cadarnhau gan y Senedd yn 1628 (3 Chas. I, cap. 6) a thrachefn yn 1647.

Gan iddo gytuno â dyfarniad y barnwyr o blaid 'ship money' (Chwefror 1637) a'u condemniad o Hampden ym mis Rhagfyr, a'i fod yn aelod o Lys yr Uchel Gomisiwn (Rhagfyr 1633), teimlai llawer yn ddig tuag ato yn y Senedd Faith, lle y dechreuodd ymosodiadau arno ym mis Rhagfyr 1640 ac, yn dilyn hynny, ym mis Gorffennaf y flwyddyn wedyn cyhuddwyd ('impeached') ef o frad; rhoddwyd atal ar y cyngaws gan y Rhyfel Cartrefol, eithr cafodd ei ddirwyo i'r swm o £6,000 ym mis Hydref 1643. Yn y cyfamser parhai Trevor i eistedd fel barnwr, gan wrthod gwŷs y brenin i fynd ato i Rydychen y mis y rhoddwyd y dyfarniad yn ei achos, eithr ymddiswyddodd o'r fainc pan ddienyddiwyd y brenin, ac ymneilltuodd i'w stad yn swydd Warwick gan fyw yno hyd ei farwolaeth, 21 Rhagfyr 1656. Ychydig o gyswllt a fuasai rhyngddo â Chymru am 30 mlynedd.

Syr THOMAS TREVOR (1612 - 1676), 'auditor' y 'Duchy of Lancaster'

Mab Syr Thomas Trevor. Dewiswyd ef yn aelod dros sir Fynwy i'r Senedd Faith, serch ei eni ar faenor ei dad yn Enfield; bu anghydfod ynglŷn â'r etholiad arbennig hwnnw a chollodd Syr Thomas Trevor ei sedd maes o law. Serch iddo gael ei wneuthur yn farwnig gan Siarl I (11 Awst 1641) daeth i'r Senedd fel aelod 'recruiter' dros sedd gyntaf ei dad yn 1647, eithr trowyd ef allan ohoni ('excluded') ym mis Rhagfyr 1648. Yr oedd ar bwyllgor milisia sir Ddinbych yn 1648 ac ar bwyllgor Gogledd Cymru (a phwyllgorau tair sir yn Lloegr hefyd ym mis Mawrth 1660 ac ar bwyllgor ardrethol sir Warwick yn 1657. Yr oedd eto, fis Rhagfyr 1675, yn rhydd-ddeiliad ac etholwr yn sir Ddinbych, ond bu farw heb etifeddion gwrywol a daeth y farwnigiaeth i ben ym mis Chwefror 1676.

Syr JOHN TREVOR II (bu farw 1673), seneddwr

Mab hynaf Syr John Trevor I a adawodd Blas Teg iddo ar ei farwolaeth ac a geisiasai (eithr yn ofer) gael gwraig o Gymraes iddo yng Ngwydir (1615). Yn 1619 priododd ferch Syr Edmund Hampden (a oedd yn nes ymlaen yn un o'r 'Five Knights' ac a brofodd yn ferthyr yn ei wrthwynebiad i Siarl I); gwnaethpwyd ef yn farchog yr un flwyddyn (7 Gorffennaf). Bu'n aelod seneddol dros sir Ddinbych yn 1621 a thros sir y Fflint yn y ddwy Senedd a ddilynodd; yn nes ymlaen eisteddai dros fwrdeisdrefi a oedd o dan awdurdod teulu Howard neu deulu iarll Pembroke. Ar wahân i wasanaeth ar Bwyllgor y Breiniau ('Committee for Privileges') a hyrwyddo un mesur Cymreig yn 1628 ychydig o'i ôl a adawodd fel seneddwr. Eithr yr oedd yn sefyll yn uchel yn ffafr y llys brenhinol a chasglodd gyfoeth gan ei fod yn geidwad amryw fforestydd brenhinol ac yn gallu manteisio ar fraint ei dad i 'ffermio'r' doll ar lo - dywedir fod hyn yn dwyn iddo £1,500 y flwyddyn; etifeddodd Drefalun hefyd yn 1638 ar ôl ei ewythr Syr Richard. Yr oedd yn aelod o amryw gomisiynau brenhinol pan oedd Siarl I yn rheoli heb Senedd. Ac eto bu'n aelod o'r Senedd Faith hyd y diwedd ac edrychid arno fel y prif lefarydd dros Ogledd Cymru ar brif gyfryngau'r llywodraeth seneddol, megis y 'Committee of Both Kingdoms' (o 2 Mehefin 1648), Comisiwn Taenu'r Efengyl yng Nghymru (22 Chwefror 1649), a dau o gynghorau'r Werinlywodraeth (1651 a 1652-3), heblaw pwyllgorau lleol - milisia a threthi'r Llywodraeth yn Middlesex (1644-60), Westminster (1645-60), sir Ddinbych (1647-60), a Sir y Fflint (1648-60). Bu'n eistedd hefyd yn ail Senedd Cromwell, ac yr oedd o blaid cynnig y goron iddo (The Parliamentary or Constitutional History of England from the earliest times to the Restoration of Charles II [1762], xxi, 16). Parhaodd (yn erbyn peth gwrthwynebiad) i 'ffermio' treth y glo a chredid ei fod yn un o'r rhai a gafodd gyfran o stad Raglan pan gymerwyd meddiant ohoni. Eithr ni chafodd gadw'r gyfran a brynodd ef gan 7fed iarll Derby o faenorau'r Hôb (Hope), yr Wyddgrug, a Phenarlâg (12 Rhagfyr 1646), oblegid diddymwyd y pryniant gan y weithred gyfreithiol y trosglwyddodd 8fed iarll Derby (wedi i'w dad gael ei ddienyddio) yr eiddo i John Glynne drwyddi, a chan y dyfarniad cyfreithiol a gafwyd wedi'r Adferiad na ellid gwerthu maenor yr Hôb. Ni chymerth unrhyw ran yn yr Adferiad eithr rhoddwyd iddo bardwn brenhinol ar 24 Gorffennaf 1660. Yn Llundain yr oedd yn byw, gan mwyaf; gadawodd i William Jones, gweinidog Piwritanaidd Dinbych a ddifuddiwyd, fyw yn y Plas Teg fel ei bensiynwr (1661) a chaniatáu iddo gael trwyddedu'r tŷ yn gonfenticl i gynnal gwasanaethau crefyddol ynddo o dan Oddefiad ('Indulgence') 1672; goruchwylwyr stad a fu'n byw yn Nhrefalun hyd tua diwedd y 18fed ganrif.

Syr JOHN TREVOR III (1626 - 1672), ysgrifennydd y wladwriaeth

Ail fab (eithr yr hynaf yn fyw) Syr John Trevor II. Priododd Ruth, ferch John Hampden, a oedd yn perthyn i deulu ei fam ac yn gyfyrderes i Oliver Cromwell; parhaodd Ruth Trevor yn Bresbyteriad hyd yn oed wedi'r Adferiad a mynychai eglwys Thomas Manton yn Llundain (1676) ar ôl marw ei gŵr (Hist. MSS. Comm., IIth R., vii, 15). Aeth Trevor i'r Senedd fel aelod 'recruiter' dros sir y Fflint (2 Rhagfyr 1646), eithr alltudiwyd ef o'r Senedd (Rhagfyr 1648) am ei fod yn gwrthwynebu prawf y brenin. Eisteddai ar bwyllgorau seneddol Sir y Fflint ac ar gydbwyllgor siroedd Gogledd Cymru yn 1647-8, eithr (yn wahanol i'w dad) ymneilltuodd o fywyd cyhoeddus wedi i'r brenin gael ei ddienyddio; dychwelodd, fodd bynnag, yn aelod dros sir y Fflint i Seneddau'r Ddiffynwriaeth, lle y bu'n siarad yn fynych ac i bwrpas, o blaid cael Llywodraeth safadwy a diogelwch y cyfansoddiad; yr oedd o blaid cynnig y goron i Cromwell. Yr oedd hefyd yn aelod o amryw o'r pwyllgorau sir o 1657 ymlaen. Yr oedd o blaid Richard Cromwell eithr pan ymwadodd hwnnw â'i swydd troes Trevor i bleidio'r cadfridog Monck, a bu'n eistedd ar ei gyngor gwladwriaeth ef (21 Chwefror 1660); yn etholiadau'r ' Convention,' fodd bynnag, nid etholwyd mohono gan sir y Fflint (er i'w dad ymdrechu o'i blaid) am ei fod yn Frenhinwr mor ddi-ildio, ac er mwyn osgoi ymladd yn erbyn cynifer o'i hen gyfeillion ('to avoid a contest with many great friends') ymneilltuodd i un o hen fwrdeisdrefi Syr John (N.L.W., Rhual MS. 98).

Rhoes iarll Pembroke sedd dros fwrdeisdref iddo yn y 'Senedd Gafalîr'; yno, serch ei gyfrif yn gyffredin fel aelod o barti'r Llys, gwnaeth araith ' smart and severe ' yn ystod ymosodiad Tŷ'r Cyffredin ar yr arglwydd Clarendon, y gŵr hwnnw a arweiniai (pan oedd yn Hyde) yn yr achwyniad difrifol yn erbyn Syr Thomas yn 1641. Pan ddaeth y gwrthwaith yn erbyn polisi eglwysyddol Clarendon bu'r ffaith fod i Trevor enw da o hyd gyda'r Ymneilltuwyr o gymorth i Siarl II, a'i gwnaeth yn farchog y flwyddyn wedyn a'i anfon, gyda'r gŵr o'r un enw o deulu Brynkynallt, ar neges lysgenhadol i Ffrainc (lle y gwnaeth waith da); cafodd ei dderbyn yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ac yn is-ysgrifennydd y Wladwriaeth (22 Medi), serch nad oedd ganddo yn y swydd honno unrhyw ddylanwad ar bolisi. Yn y Cyngor yr oedd o blaid Datganiad Goddefiad (y ' Declaration of Indulgence'), a gafwyd ar 15 Mawrth 1672, a bu iddo ran yng ngweinyddiad y goddefiad hwnnw hyd ei farw sydyn ar 28 Mai 1672. Yr oedd ei frawd iau,

RICHARD TREVOR (bu farw 1676), hynafiaethydd

Gohebai ag Anthony Wood, yn gymrawd o Goleg Merton, Rhydychen, ac yn M.D. o Brifysgol Padua (Athenae Oxonienses, ii, 529; iii, 479).

Daeth y stadau yn eiddo mab hynaf Syr John, sef

JOHN TREVOR (ganwyd c. 1652)

a etifeddodd hefyd, ar ôl cefnder, stad Glynde yn Sussex; o hyn ymlaen Glynde oedd prif gartref y teulu. Pan fu farw ei ŵyr, JOHN TREVOR comisiynwr y Morlys, yn 1743, daeth y llinell wrywol i'w therfyn, ac aeth y stadau Cymreig, trwy fenywod, i feddiant (1) teulu is-ieirll Hampden (o'r rhai hyn yr oedd yr is-iarll 1af, Robert Hampden-Trevor, 1706 - 1783, a'r trydydd, John Hampden-Trevor, 1749 - 1824, yn llys-genhadon o bwys), a (2) teulu Boscawen yng Nghernyw; ac aeth stad Glynde i feddiant barwniaid Dynevor. Arferai rhai o deulu Hampden fyw ar brydiau yn y Plas Teg (a osodid i ffermwyr cyn hynny) a byddai aelodau o deulu Boscawen yn byw yn Nhrefalun.

THOMAS TREVOR, y barwn Trevor (o Drefalun) 1af (1658 - 1750), barnwr

Ail fab Syr John Trevor III. Cafodd ei addysg yn yr Inner Temple (1672), daeth yn Gyfreithiwr Cyffredinol yn 1692 ac yn Atwrnai Cyffredinol i'r brenin William III (1695), yn brif farnwr llys y Common Pleas (1701), ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor (1702). Yr oedd ei ddyrchafu i fod yn farwn (1 Ionawr 1712) yn rhan o'r cynllun i sicrhau pasio Cymod Utrecht drwy Dŷ'r Arglwyddi drwy drechu mwyafrif gwrthwynebus y Chwigiaid. O'r ochr arall parodd ei dueddiadau Torïaidd iddo golli ei swyddi o dan deulu Hanover hyd nes y gwnaethpwyd ef yn ' Lord Privy Seal ' yn 1726 ac yn arglwydd-lywydd y Cyfrin Gyngor yn 1730.

Ei ail fab oedd

RICHARD TREVOR (1707 - 1771), esgob Tyddewi a Durham

Ganed yr esgob yn Glynde, cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster ac yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen (1724-7), daeth yn gymrawd o Goleg All Souls yn 1727, yn D.C.L. yn 1736, ac yn ganon Christ Church, Rhydychen, 1735-52. Fel esgob Tyddewi o 1 Ebrill 1744 hyd ei symud i fod yn esgob Durham, 9 Tachwedd 1752, bu iddo enw da yn herwydd ei ysgolheictod a'i haelioni; ymysg rhai a fu'n esgobion Tyddewi yn hanner cyntaf y 18fed ganrif yr oedd yn nodedig yn herwydd y modd cydwybodol y cyflawnai ei ddyletswyddau fel esgob ar hyd yr amser y bu'n esgob yno.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.