TUDUR, SIASPAR (JASPER) (c. 1431 - 1495), iarll Pembroke

Enw: Siaspar Tudur
Dyddiad geni: c. 1431
Dyddiad marw: 1495
Priod: Catherine Stafford (née Woodville)
Rhiant: Catherine
Rhiant: Owain Tudur
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: iarll Pembroke
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

ail fab Owain Tudur, a Catherine de Valois, gweddw'r brenin Harri V. (Am hanes priodas ei rieni gweler yr erthygl ar Owain Tudur.) Ganed ef yn Hatfield, swydd Hertford, a'i ddwyn i fyny yng nghwfaint Barking, Essex, gyda'i frawd hŷn, Edmwnd Tudur; ymddengys i'w buddiannau fod o dan arolygiaeth garedig eu hanner-brawd brenhinol, y brenin Harri VI. Cafodd Siaspar ei wneuthur yn farchog yn 1452-3 ac, fel ei frawd hŷn, caniatawyd iddo gyfran ym materion y wladwriaeth a rhoddwyd iddo gynhaliaeth addas. Serch iddo gael ei greu yn iarll Pembroke yn y cyfnod hwn ni fu i'w gysylltiad maith â materion Cymreig gychwyn nes i Edmwnd farw yn 1456; y pryd hwnnw ymgartrefodd ym Mhenfro a dechrau ar y gwaith y bwriedid i Edmwnd ei wneuthur, sef trefnu pencadlys cadarn yn Ne Cymru ym mhlaid y Lancastriaid. Hyd y flwyddyn 1485 (ac eithrio'r amser yr oedd yn alltud) cyfyngodd ei weithrediadau i Gymru, gan ymroddi yn deyrngar ac egnïol i wasnaethu'r tywysogion ieuainc y naill a'r llall yn eu tro. Y mae'n wir fod cofnodion a chofysgrifau'r cyfnod yn arddangos personoliaeth heb ddim dal arni a pherson yr oedd ei symudiadau yn fynych yn dywyll ac annirnadwy; serch hynny i gyd yr oedd Siaspar yn ŵr a adawodd argraff ddofn ar ei genhedlaeth ac yn arbennig felly ar y beirdd Cymreig a bleidiai achos teulu Lancaster yn erbyn teulu Iorc.

Pan dorrodd y rhyfel allan (ac wedi iddo gymryd gofal bod ei safle yn ne-orllewin Cymru yn ddiogel), gwarchaeodd ar Ddinbych a'i chymryd yn 1460. Yna aeth i Ffrainc i geisio cymorth. Dychwelodd oddi yno gan lanio (y mae'n debyg) yn Aberdaugleddau a chyrraedd sir Henffordd mewn pryd i gymryd rhan ym mrwydr Mortimer's Cross (Chwefror 1461). Dihangodd o faes y frwydr yn niwyg a dull person arall, ac ymhen ychydig fe'i ceir yn ysgrifennu llythyrau o Ddinbych-y-pysgod yn ei ymdrech i geisio trefnu'r gwrthwynebiad yng Ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn yr oedd yn ffoadur yn ardal Eryri; oddi yno ffodd, wedi iddo gael ei orchfygu gerllaw Caernarfon, i Iwerddon, ac yn ddiweddarach, i Sgotland. Dychwelodd i Gymru dair gwaith cyn myned i'w alltudiaeth ddiwethaf yn Llydaw, a cheisiodd ailgreu gwrthwynebiad i Edward IV; y tro cyntaf a'r ail dro llwyddodd i ffoi o gyffiniau Harlech - ymddengys fod iddo gyfeillion ymysg rhai uchelwyr yn y rhan honno o'r wlad. Yng ngoresgyniad 1470 glaniodd eilwaith yng Nghymru eithr methodd â chyrraedd Tewkesbury mewn pryd i fod yn dyst i ail orchfygiad mawr y Lancastriaid. Y tro hwn ffodd i Gasgwent (Chepstow) lle yr ymddengys iddo ddyfod i gysylltiad o'r newydd â'i nai ieuanc, Harri Richmond (gweler Harri VII), â'i fam - (yr oedd Siaspar wedi ymgymryd â gofalu am Harri a'i addysgu, cyn i hwnnw syrthio am gyfnod i ddwylo'r Iorciaid) - ac ar ôl rhai anturiaethau a digwyddiadau llwyddodd i'w symud hwynt o Gymru i Lydaw. Nid oes ddadl nad Siaspar oedd prif gynghorydd Harri pan oedd hwnnw'n alltud yn Llydaw; y mae'n sicr iddo lanio gydag ef yn Aberdaugleddau yn 1485, ac iddo ymladd ym mrwydr Bosworth. Wedi hynny cafodd amryw anrhydeddau - yn eu plith ei wneuthur yn ddug Bedford a'i ddewis yn brif ynad ('justiciar') De Cymru. Yn 1486, rhoes Harri VII iddo arglwyddiaeth Morgannwg; cadarnhawyd hi iddo yn 1488, a daliodd hi hyd ei farw. A barnu oddi wrth y llu cyfeiriadau gwasgarog ato yn ystod y 10 mlynedd dilynol, treuliodd flynyddoedd ei henaint fel gwladweinydd doeth a berchid yn fawr. Rhwng 1483 a 1485 priododd â Catherine Woodville, eithr ni bu blant o'r briodas. Bu farw ar 21 neu 26 Rhagfyr 1495, ac os cafodd ei ddymuniad, fel y mynegwyd hwnnw yn ei ewyllys, fe'i claddwyd yn abaty Keynsham, gerllaw Bryste.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.