Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



TUDUR ALED ( fl. 1480-1526 ), bardd ;

g. ym mhlwyf Llansannan . Ceir llawer o gopïau o'i ach yn y llawysgrifau, ond ysywaeth, y mae ychydig amrywiadau ynddynt. Ymddengys mai enw ei dad oedd Robert ac mai enw ei daid oedd Ithel a'u bod hwy'n ddisgynyddion i Lywelyn Chwith ; dywed Huw ap Dafydd yn ei farwnad i Tudur Aled — ‘ Ail Iolo, o Lywelyn, Ag o du'r Chwith, gwenith gwyn ’ ( G.T.A. , ii, 728). Ar ochr ei dad, felly, yr oedd y bardd yn perthyn i Lwydiaid y Chwibren , cainc o deulu Llwydiaid Hafod Unnos a olrheiniai eu hachau i Hedd Molwynog (neu Ab Alunawg ) , pennaeth un o bymtheg llwyth Gwynedd (op. cit., I, iv, 35), a gallai ymffrostio ei fod yn uchelwr . Honnai berthynas â Dafydd ab Edmwnd , ‘ ewythr o waed ’ (op. cit., I, lxx, 29), ac â Gwenhwyfar , ferch Rhys ab Einion a gwraig Robert Salbri o Lanrwst (op. cit., I, iv, 38), a chesglir ei fod yn perthyn i Gruffudd ap Dafydd ap Maredudd , maer Rhuthyn , os oedd hwnnw, fel y dywed y bardd , yntau'n un o ddisgynyddion Llywelyn Chwith (op. cit., II, cxix, 11).

Anodd casglu pa bryd y dechreuodd brydyddu . Ceir cyfeiriadau pendant ganddo at frwydr Blackheath ( 1497 ); gw. op. cit., I, iv, 5; vii, 56. Gwelodd golygydd ei waith gyfeiriadau at frwydr Bosworth ( 1485 ) yn ei gywydd i Syr William Gruffudd y Siambrlen (op. cit., I, xxxiii, 31-4, 49), a chasglodd fod y bardd wedi dechrau prydyddu ychydig amser cyn hynny, gan mai ‘cywyddau merch’ fyddai ei gywyddau cyntaf yntau fel y rhelyw o'r beirdd, yn ôl pob tebyg (op. cit., I, xxi).

Nid oes sicrwydd chwaith ynglŷn â'r lle y cafodd y bardd ei addysg, ond y mae'n amlwg ei fod wedi ei drwytho yn y traddodiadau Cymreig . Dywed traddodiad ei fod yn ddisgybl i Ddafydd ab Edmwnd [q.v.] , a dywed y bardd ei hun hynny yn ei farwnad iddo ‘ F'ewythr o waed, f'athro oedd ’ (op. cit., I, lxx, 29). Ni wyddys pa bwys i roi ar y geiriau hyn, oblegid dywed y bardd fod Ieuan ap Llywelyn ab Ieuan ap Dafydd yntau'n athro iddo (op. cit., I, lxviii, 58). Wrth gwrs, y mae'n bosib fod y ddau'n athrawon iddo. Nid oes dim yn annhebygol yn y gosodiad fod Tudur Aled yn ddisgybl i Ddafydd ab Edmwnd , oblegid yn sir y Fflint y preswyliai'r olaf ac yr oedd ganddo eiddo ym Mhwll Gwepra , ac fe all fod Ieuan ap Llywelyn yn un o'r beirdd a oedd yn bresennol yn y neithior yn neuadd Ieuan ap Dafydd ap Ithel Fychan o Degeingl (op. cit., I, lxvii) pan gafodd Tudur Aled ei radd gyntaf fel bardd . Bid a fo am hynny, daeth Tudur Aled yn fardd o fri a dylanwad mawr, ac yr oedd yn un o'r ddau fardd a oedd y tu ôl i gynnal eisteddfod Caerwys yn 1524 i ‘ wneud ordr a llywodraeth ar wŷr gerdd ac ar ei celfyddyd ,’ ac fe'i gwnaed yn fardd neu'n athro ‘cadeiriog’ yn yr eisteddfod honno. Yn ei farwnad i Tudur Aled y mae gan Lewys Môn gwpled: ‘ Dug ar i wn, fel dau grair, Diwedd gwawd, y ddwy gadair ’ (op. cit., II, 734), a chymerwyd bod hynny'n awgrymu ddarfod gwneuthur Tudur Aled yn athro cerdd dant yn ogystal ag yn athro cerdd dafod (op. cit., I, xxxviii).

Un o noddwyr Tudur Aled oedd Syr Rhys ap Thomas [q.v.] (gw. op. cit., I, vii, xii, xiii, xiv; II, cxxxvii). Bu Syr Rhys farw yn 1525 . Ni chanodd y bardd farwnad iddo, a chan na wnaeth, cesglir ei fod yntau wedi marw yng Nghaerfyrddin yn sydyn, ac yn fuan ar ôl ei noddwr, a'i fod wedi ei gladdu yno yng Nghwrt y Brodyr , fel y dengys y marwnadau iddo, ac yn abid y Brodyr Llwydion , abid a gymerth, yn ôl arfer llawer yn yr oes honno, yn ei afiechyd olaf (gw. op. cit., II, 725, 15-25, 729, 23-6, 735, 9-14). Yn ei farwnad iddo, dywed Raff ap Robert ‘ Mae'n brudd llu am un bardd llwyd, O bur addysg, a briddwyd; Aeron o gorff yr un gŵr, Un i Dduw yn weddiwr; Dyna roi un da'n i raid, Syr Siôn, rhag siars i enaid; Peri alaeth i'r prelad, Fu oer a dwys farw i dad ’ (op. cit., II, 744, 17-24). Ar sail y geiriau hyn, dywedwyd bod Tudur Aled yn briod, neu, o leiaf, fod ganddo fab, a bod hwnnw'n offeiriad (op. cit., I, xlvi), ond nid oes dystiolaeth arall o blaid credu hynny.

Ffynonellau:

  • T. Gwynn Jones , Gwaith Tudur Aled , 1926 , i a ii, 1926 ;
  • J. Morris-Jones , ‘Tudur Aled,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1908-9 , 21-52;
  • Saunders Lewis , ‘Tudur Aled,’ yn Efrydiau Catholig , 1946 ff , i, 32-46.

Awdur:

Yr Athro John Ellis Caerwyn Williams, M.A., B.D., (1912-99), Bangor / Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

TUDUR ALED ( Bywg. , 926).

Yn 1526 (nid 1525 ) y bu Syr Rhys f.

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54