TURNOR, DAVID (1751? - 1799), clerigwr a diwygiwr amaethyddol

Enw: David Turnor
Dyddiad geni: 1751?
Dyddiad marw: 1799
Priod: Catherine Turnor (née Haygarth)
Rhiant: Margaret Turnor (née Gyon)
Rhiant: John Turnor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a diwygiwr amaethyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Evan David Jones

Mab John Turnor, Crugmawr, Llangoedmor (a fu farw 1775), o'i wraig Margaret Gyon, merch Ffynnon Coranau, Sir Benfro. Addysgwyd ef yn Rhydychen (ymaelodi yn Christ Church, 22 Mai 1767, yn 16 oed, B.A. 1771, M.A. yng Nghaergrawnt) a'i ordeinio'n ddiacon 7 Mawrth 1773, ac yn offeiriad, 21 Medi 1774. Bu'n gurad Penbryn a Betws Ifan, Sir Aberteifi, caplan i iarll Cawdor, rheithor Rudbaxton, 1790-7, deon gwlad Daugleddau, 1795, ficer Penbryn, 1796-9, a rheithor Maenordeifi, 1797-9. Yr oedd yn ustus heddwch yng Ngheredigion, ac yn un o sefydlwyr y Gymdeithas er Cefnogi Hwsmonaeth a Diwydrwydd yn y Sir, 1790, ac yn fawr ei ddiddordeb mewn sychu tir a phlannu coed. Yr oedd yn gyd-awdur A General View of Agriculture of the County of Cardigan, 1794, gyda Thomas Lloyd, Bronwydd (gweler Syr T. D. Lloyd). Prynodd stad Ffynnon Werfyl yn Llangrannog, a chododd blas yno. Bu farw 7 Mawrth 1799, a'i gladdu yn Llangrannog. Ei wraig (a fu farw 1802) oedd Catherine ferch William Haygarth, rheithor Enham ac Upton Grey, Hampshire. Daeth ei frawd JOHN TURNOR i fri ar y môr, a phan fu farw yn agos i'r Prince of Wales Island, 2 Ionawr 1801, yn 42 oed, yr oedd yn gapten H.M.S. Trident. Yr oedd brawd arall, LEWIS TURNOR (ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 17 Rhagfyr 1777, yn 20 oed), mewn urddau. Prynodd ef Ffynnon Werfyl, 1802, a dilynodd ei frawd yn ei ddiddordebau amaethyddol gan danysgrifio at y Gymdeithas Amaethyddol, ac ennill ei gwobrau. Bu ef farw 1834.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.