TURNER, EDWARD (' NED ') (1792 - 1826), paffiwr

Enw: Edward Turner
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1826
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: William Jenkyn Thomas

Ganwyd yn Llundain, yn 1792 (1791 yn ôl Bohun Lynch, The Prize Ring), yn fab i rieni o Gymry a ddaethai o'r Drenewydd, Sir Drefaldwyn; bu'r mab yno yn ddiweddarach yn cael ei baratoi ar gyfer gornest a chael ei drin yn dda oherwydd ei lwyddiant wrth baffio. Cafodd ei brentisio fel trwsiwr crwyn mewn iard yn Bermondsey, lle yr oedd clwb paffwyr. Yno daeth Turner yn gystal paffiwr nes i'r fforman ddyfod yn eiddigus o'i fedrusrwydd, gan ei ddifrïo am ei fod yn Gymro. Aeth yn ymladd rhwng y ddau - a'r Cymro a orfu. O hyn ymlaen ac ar ôl rhai gornestau eraill daethpwyd i gydnabod Turner fel paffiwr yn perthyn i'r dosbarth blaenaf. Yn erbyn Curtis y bu ei ornest fawr gyntaf. Ymladdodd y ddau yn deg, eithr dyrnodiwyd Curtis mor drwm nes y bu farw ar ôl yr ornest. Cyhuddwyd Turner o lofruddiaeth, eithr rhoes y barnwr ddyfarniad yn erbyn hynny a dedfrydu'r carcharor i dri mis o garchar am ddynleiddiad. Yn ddiweddarach ymladdodd Turner ddwywaith â Scroggins, gan ennill y ddeutro, â Randall ('The Nonpareil'), gan gael ei guro ganddo (eithr o brin), â Davis a Martin ('The Master of the Rolls ' - pobydd ydoedd), gan ennill y waith gyntaf a cholli yr ail waith, ac ag Inglis ddwywaith, gan golli y tro cyntaf ac ennill yr ail dro. Collodd ei iechyd a bu farw yn Ebrill 1826 pan nad oedd ond 34 oed. Yr oedd yn ddyn diymhongar, gwylaidd, ac o natur garedig. Pan fyddai yn y cylch paffio ni cheid neb i'w guro o ran medrusrwydd, gallu i gadw ymlaen i ymladd, a gwroldeb. Canmola George Borrow ef yn ei arwyrain i baffwyr Lloegr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.