TURNER, WILLIAM (1766-1853), un o arloeswyr y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, etc.

Enw: William Turner
Dyddiad geni: 1766
Dyddiad marw: 1853
Priod: Jane Turner (née Williams)
Plentyn: Llewelyn Turner
Rhiant: Jane Turner
Rhiant: Henry Turner
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arloeswyr y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru, etc.
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: William Llewelyn Davies

Bedyddiwyd ef 23 Mawrth 1766, chweched mab Henry a Jane Turner, a oedd yn byw ar stad fechan o'r enw Low Mosshouse, yn Seathwaite, yn ymyl Broughton-in-Furness, swydd Lancaster; yr oedd gan Henry Turner brydles ar chwareli llechi Walmascar. Cafodd ei addysg o dan Robert Walker, 'the wonderful Robert Walker,' offeiriad Seathwaite (a thad Mrs. Thomas Casson, Blaenddôl, Ffestiniog). Clywodd am haenau o lechfaen yng Ngogledd Cymru a daeth ar daith gerdded i Eryri, ac yntau eto'n ddyn ieuanc. Trefnodd bartneriaeth gyda Williams, Pwllycrochan, Bae Colwyn, i weithio chwarel gerllaw Llanrwst (Llanrhychwyn ?). Pan ddeallodd na thalai mo'r antur hon aeth i ardal Ffestiniog i archwilio posibiliadau, a thrawodd ar haen dda yn y Diffwys, Blaenau Ffestiniog. Perswadiodd ddau gyfaill iddo o swydd Lancaster, Thomas Casson a William Casson, i ymuno ag ef i weithio'r chwarel. Gwnaethpwyd hyn ac ymunodd Hugh Jones, Hengwrt Ucha, Dolgellau, â hwynt i ffurfio cwmni ' William Turner and Co. '; am hanes pellach y cwmni gweler G. J. Williams, Hanes Plwyf Ffestiniog. Rhoddir manylion gan ei fab, Syr Llewelyn Turner (isod), yn ei Memories of Sir Llewelyn Turner, 1903, am lwyddiant ymdrechion y tad i werthu ac allforio y llechi a gynhyrchid yn chwarel y Diffwys, a dywed hefyd i'r llwyddiant hwn beri i Thomas Assheton Smith gynnig partneriaeth iddo yn chwarel Llanberis, eithr ar yr amod ei fod yn dyfod i fyw yn y Parkia, gerllaw Caernarfon - yr hyn a wnaeth (cyn 1812). Wedi hynny bu a fynnai Turner â chwareli llechi eraill ac â chloddfeydd mwyn yng Ngogledd Cymru. Pan oedd yn siryf Sir Gaernarfon, 1823-4, a Meirionnydd, 1832-3, cysylltid ei enw â'r Garreg-fawr, Croesor. Bu farw fis Tachwedd 1853.

Syr LLEWELYN TURNER (1823 - 1903);

Ganwyd 11 Chwefror 1823 yn y Parkia (a'i fedyddio 26 Chwefror 1823 yn eglwys Llanfairisgaer), mab William Turner a'i wraig Jane (Williams); yr oedd y fam o dylwyth Griffith Williams (bu farw 1672), esgob Ossory, Iwerddon. Yn ei Memories, a gyhoeddwyd pan oedd yn 80 mlwydd oed, rhydd atgofion diddorol am ei yrfa a'i gyfeillgarwch gyda bargyfreithwyr, barnwyr, gwŷr y môr, etc. Yr oedd yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus a dinesig tref Caernarfon, ac yn ddiwyd iawn pan ymwelodd haint y colera â'r dref yn 1867 - dywed iddo lwyddo i glirio llawer o slymiau y dref honno (bu'n faer ddwywaith). Ef oedd sylfaenydd (1846) y Royal Welsh Yacht Club. Bu'n is-gwnstabl castell Caernarfon a gwnaeth lawer i atgyweirio a thacluso'r adeilad hwnnw. Bu am flynyddoedd yn wirfoddolwr gyda bywydfadau a llwyddodd i gael gan lawer o forwyr Caernarfon a'r cylch i ymuno â'r Royal Naval Reserve. Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1870. Priododd, 1878, Agnes, merch G. Bell. Bu'n siryf Sir Gaernarfon, 1886-7. Bu farw 18 Medi 1903.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.