VAUGHAN (TEULU), Cleirwy (‘Clyro ’), sir Faesyfed .
Sefydlydd y gainc hon o'r Fychaniaid oedd ROGER VAUGHAN (I), trydydd mab Thomas ap Rhosier Fychan, Hergest — gw. Vaughan (Teulu), Hergest. Ei wraig oedd Jane ferch Dafydd ap Morgan ap Siôn ap Phylip. ROGER VAUGHAN (II) oedd eu hetifedd, a phriododd ef Margaret ferch Rhys ap Gwilym ap Llywelyn ap Meurug. Dichon mai ef oedd yr un y gwelir ei enw ar restr comisiynwyr y degymau eglwysig yn Ionawr 1535. Yr oedd iddo o leiaf ddau fab: ROGER VAUGHAN (III), yr etifedd, a THOMAS VAUGHAN, Llywes, a briododd Sibil ferch Hywel ap Thomas Goch. Y ddau frawd yma a syrthiodd i grafangau'r esgob Rowland Lee [q.v.] yn 1538. Dichon mai Thomas oedd y Thomas Vaughan, Cleirwy, a gafodd bardwn am lofruddiaeth, 14 Awst 1536. Bu'r ddau o dan groesholi gan yr esgob a Sulyard ar 18 Gorffennaf 1538, a pha beth bynnag oedd yr achos yr oedd yn ddigon difrifol i Thomas Cromwell eu galw o dan osgordd i'w wyddfod ei hun yn Llundain. Y Roger Vaughan hwn, wedi cyrraedd safle o barchusrwydd y mae'n debyg, oedd siryf Maesyfed yn 1576-7. Ei wraig ef oedd Margaret, ferch Syr William Vaughan, Porthaml, a briododd Charles Vaughan, Hergest, yn ail ŵr, a hithau yn ail wraig iddo ef. ROGER VAUGHAN (IV) oedd yr etifedd, a phriododd ef Margery ferch Richard Monington. Yr oedd ef yn ustus heddwch yn siroedd Maesyfed, Henffordd, a Brycheiniog, yn ddirprwy-raglaw Maesyfed, a bu'n aelod seneddol dros sir Faesyfed o 1572 i 1583 ac yn siryf Brycheiniog yn 1595-6. Yr oedd yn gyfeillgar â Syr Gelly Meyrick [q.v.], a daeth o dan ddrwgdybiaeth drom pan gododd iarll Essex mewn gwrthryfel yn 1601. Yr oedd ei fab JOHN VAUGHAN yn siryf Maesyfed yn 1607-8. Priododd ef aeres Richard Baynham, Aston Ingham, sir Henffordd, a thuag yno y trodd golygon y teulu o hynny allan.
Llyfryddiaeth:
- Dwnn, i, 258;
- Limbus Patrum, 238;
- Cal. Pat. Rolls;
- L. and P. Hen. VIII;
- Hist. MSS. Comm., Cecil MSS., xi, 43-107;
- W. R. Williams, Parl. Hist., 172;
- D. Mathew, The Celtic Peoples and Renaissance Europe, 352-455.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth